Y cyntaf i deithio hyd yr Afon Yangtze

  • Cyhoeddwyd
Ash Dykes gyda'r ddraig goch yn ystod ei daith i lawr y YangtzeFfynhonnell y llun, Ash Dykes
Disgrifiad o’r llun,

Ash Dykes gyda'r ddraig goch yn ystod ei daith i lawr y Yangtze

"Yn gyntaf oll dw i'n gwneud y daith er mwyn angerdd ac antur y peth ac er mwyn gweld ochr wahanol i'r wlad."

Pan ymadawodd Ash Dykes â'i gartref ym Mae Colwyn ar gychwyn ei her i gerdded hyd yr AfonYangtze - yr afon hiraf yn Asia - roedd yn barod am antur. Ond bosib nad oedd wedi rhagweld peryglon y bleiddiaid a'r eirth, y tywydd eithafol a hefyd heriau'r unigrwydd.

Y Cymro 28 mlwydd oed yw'r cyntaf i deithio hyd 4,000 o filltiroedd yr afon yn Tsieina ar ei ben ei hun, gan gwblhau'r daith ym mis Awst ar ôl blwyddyn o gerdded.

Dyma'r drydedd record byd i Ash gan i'r anturiwr hefyd gwblhau teithiau cerdded epic ar hyd Mongolia a Madagasgar ar ei ben ei hun.

Defnyddiodd y siwrne i lawr y Yangtze i dynnu sylw at broblem llygredd yr afon ac er mwyn lledu neges am bwysigrwydd gwarchod yr amgylchedd.

Yr her eithaf

Roedd y daith yn un anodd yn feddyliol ac yn gorfforol, gyda 16 o bobl yn trio ymuno â Ash am gyfnodau ond 10 yn gadael yn fuan oherwydd salwch uchder ac ofn y bywyd gwyllt.

Dywedodd Ash: "Y lladdfa hwnnw o gael popeth yn eich erbyn - bywyd gwyllt, uchder, tywydd, rhwystredigaeth - mae'n rhaid i chi dorri'r daith i lawr i gamau bach a pheidio ag edrych ar y flwyddyn gyfan. Mae'n rhaid ffocysu ar y checkpoint neu'r gymuned nesaf yn hytrach na diwedd y daith yn Shanghai."

Yn ôl Ash, dechrau'r daith oedd yr her eithaf. Cychwynnodd y daith wrth ffynhonnell yr afon, sy'n cychwyn ar uchder o 5,170m ar lwyfandir Tibet a gorffen yn Shanghai lle mae'r afon yn cyrraedd Môr Dwyrain Tseiina.

"Roedd cyrraedd y ffynhonnell yn anodd am ei fod mor uchel ac anghysbell," meddai.

"Cyn i'r diwrnod cyntaf ddechrau, fe gollon ni bedwar aelod o'r tîm oherwydd bod nhw'n ofni bywyd gwyllt yr ardal.

"Rwy'n credu eu bod nhw'n meddwl y byddai'r daith fel antur sianel Discovery lle byddai cerbydau wrth gefn ond nid felly oedd hi.

"Rydych chi i fyny yno ar eich pen eich hun ac roedd hynny'n ormod i rai. Cafodd fy guide salwch uchder ac roedd yn gwaedu o'i drwyn ac yn chwydu felly bu rhaid iddo adael. Felly wnes i ddim cyrraedd y ffynhonnell tan fy ail ymgais."

Ffynhonnell y llun, Ash Dykes
Disgrifiad o’r llun,

Yr anturiwr gydag Afon Yangtze tu ôl iddo

Wynebodd Ash nifer o rwystrau ar y daith, gan gynnwys cerdded ar uchder o 5,100m ac hefyd y tymheredd yn gostwng i -20°C. Cafodd ei ddilyn am ddeuddydd gan fleiddiaid a bu rhaid iddo osgoi eirth sawl gwaith.

Meddai: "Roeddwn i ar fy mhen fy hun am 70% o'r daith ac roedd hynny'n anodd. Roedd yna lawer o sefyllfaoedd peryglus iawn ond o'n i wedi hyfforddi a pharatoi am ddwy flynedd ac mae gen i brofiad blaenorol.

"Roedd ail hanner y daith yn wahanol â mwy o bobl yn dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol a helpodd hynny i ddod â mwy o lygaid i'r Yangtze."

Mae miliynau o bobl yn Tsieina wedi dilyn ei her ar y teledu hefyd wrth i gamerâu ymuno ar gyfer rhannau o'r daith ac erbyn hyn mae ei wyneb yn gyfarwydd ar billboards ar draws y wlad.

Dywedodd Ash: "Mae pobl yn Tsieina wedi cael eu syfrdanu i weld rhannau o'u gwlad 'dy nhw ddim wedi gweld o'r blaen. Mae pobl yn fwy cyfarwydd gyda dinasoedd Tsieina na rhannau eraill o'r wlad.

"O'n i'n meddwl y byddai'r daith yn eithaf negyddol oherwydd y llygredd ond mae'r afon wedi bod yn lanach dros y blynyddoedd diwethaf. Mae yna fwy o ymwybyddiaeth â llawer o sefydliadau yn ceisio helpu'r amgylchedd.

"Mae'r neges wedi cyrraedd y bobl. O'n i'n ffilmio rhaglen ddogfen yno a daethom ar draws pobl fel pysgotwyr oedd wedi newid eu bywoliaeth er mwyn adfer yr Afon Yangtze."

Ffynhonnell y llun, Ash Dykes
Disgrifiad o’r llun,

Bu Ash yn paratoi am ddwy flynedd cyn cychwyn ar y daith

Paratoi am yr her

Digwyddodd y daith ar ôl dwy flynedd o gynllunio a hyfforddiant corfforol a meddyliol.

Meddai'r anturiwr: "Gogledd Cymru yw fy nghartref ac hefyd ble dw i'n hyfforddi ar gyfer unrhyw antur neu daith. Mae'r holl hyfforddiant a'r gwaith caled yn digwydd yma yn fy ardal leol neu ym Mynyddoedd Eryri.

"Cerddais i lawr llwybr Clawdd Offa yn y gaeaf i baratoi ar gyfer Mongolia - fe wnaeth y tywydd fy helpu i baratoi ar gyfer yr amodau yno. Mae'r cyfan yma yng Nghymru - y mynyddoedd, y goedwig, y llynnoedd a'r môr.

"Roeddwn i allan yn y glaw a'r gwynt oherwydd mae'n fy mharatoi yn feddyliol yn ogystal ag yn gorfforol. Rwy'n beicio dros fryniau gyda sach gefn drwm. Fe wnes i strapio mwgwd uchder i'm hwyneb i'm helpu ar gyfer taith Yangtze."

Ffynhonnell y llun, Ash Dykes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Yangtze yn llifo trwy fynyddoedd rhewlif, coedwigoedd a dinasoedd mawr

Pam Tsieina?

Tsieina oedd y lle cyntaf i Ash deithio pan oedd yn 19 oed ac roedd yn awyddus i ddychwelyd.

"Y catalydd cyntaf oedd pan deithiais fel backpacker heb lawer o arian. Roedd yn beryglus - fe wnaethon ni brynu beiciau am £10 ac nid oedd gennym helmedau na ffonau. O'n i wrth fy modd," meddai.

"Harddwch y peth yw gwneud y cyfan yn rhad iawn - dyna'r neges dw i'n ei rhoi, yn enwedig i bobl ifanc yn y wlad hon. Gallwch chi wneud yr hyn rydych chi'n gosod eich meddwl iddo - gosodwch eich targedau a chadwch at gamau bach. Ewch amdani!

"Dwi'n dod o gefndir arferol, es i i ysgolion arferol a does gen i ddim cefndir cyfoethog na milwrol. Gobeithio bod hynny'n dangos y gallwch chi lwyddo trwy waith caled os ydych chi'n barod i weithio'n galed. Mae unrhyw beth yn bosibl."

Hefyd o ddiddordeb