Cyhuddo dau berson yn rhagor o lofruddio bachgen 17 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dau berson o lofruddio bachgen 17 oed ym Mro Morgannwg.
Mae'n golygu bod wyth person bellach wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth wedi i gorff Harry Baker gael ei ddarganfod yn ardal dociau'r Barri ar 28 Awst.
Bydd Leon Symons, 21, a bachgen 16 oed na ellir ei enwi - y ddau o Gaerdydd - yn ymddangos yn Llys Ynadon y ddinas ddydd Iau.
Mae'r heddlu'n parhau i roi cefnogaeth i deulu Harry Baker ac yn dal yn apelio am wybodaeth.
Mae pump o'r dynion sydd eisoes wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dod o'r Barri, sef Peter McCarthy, 36, Ryan Palmer, 33, Raymond Thompson, 47, Leon Clifford, 22, a Lewis John Evans, 61.
Mae'r chweched diffynnydd, Nathan Delafontaine yn 32 oed ac o Gaerdydd.
Mae dau berson arall gafodd eu harestio wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019
- Cyhoeddwyd2 Medi 2019