Achos bwa croes: Dyn yn pledio'n ddieuog i lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Gavin Jones, Darren Jones, Terence Whall, Martin Roberts
Disgrifiad o’r llun,

O'r top chwith, Gavin Jones, Darren Jones, a gwaelod chwith, Terence Whall, Martin Roberts

Mae pedwar o ddynion wedi pledio'n ddieuog yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug i gyhuddiadau'n ymwneud â llofruddiaeth pensiynwr ar Ynys Môn.

Bu farw Gerald Corrigan, 74, yn yr ysbyty ym mis Mai, bron i fis ar ôl cael ei saethu gyda bwa croes y tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi tra roedd yn trwsio lloeren deledu.

Mae Terrence Michael Whall, 39 oed ac o Fryngwran, yn gwadu llofruddio'r pensiynwr a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder trwy roi Land Rover Discovery ar dân ar 3 Mehefin.

Plediodd tri dyn o Fangor - Martin Wayne Roberts, 34, Darren Dennis Jones, 41, a Gavin Jones, 36 - yn ddieuog i'r un cyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd y diffynyddion eu cadw yn y ddalfa.

Mae'r achos llawn eisoes wedi ei bennu i ddechrau yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ar 14 Ionawr a dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod disgwyl iddo barhau am bedair neu bum wythnos.