Iwerddon 19-10 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dan Biggar, Josh Navidi a Hadleigh ParkesFfynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o’r llun,

Dan Biggar, Josh Navidi a Hadleigh Parkes yn cyfuno i geisio rhwystro Bundee Aki

Mae Iwerddon wedi curo Cymru ar ôl ail hanner arbennig gan y tîm cartref mewn gêm gyfeillgar cyn Cwpan y Byd.

Cafodd Rob Kearney, Tadhg Furlong a James Ryan gais yr un i Iwerddon yn Stadiwm Aviva yn Nulyn, gyda Hadleigh Parkes yn sgorio unig gais Cymru.

Dyma ydy'r ail gêm yn olynol i Gymru ei cholli ar ôl cael eu curo gan Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ddiwedd mis Awst.

Er mai Cymru oedd ar y blaen ar yr hanner, yn dilyn cais Parkes a chiciau Leigh Halfpenny, fe gafodd yr ymwelwyr ail hanner rhwystredig, gan arwain at garden felen i Adam Beard ddwy funud cyn y diwedd.

Er bod budd i'r ddau dîm chwarae gêm gyfeillgar cyn iddyn nhw hedfan i Japan ar gyfer Cwpan y Byd ganol yr wythnos, fe fydd y ddwy ochr yn gresynu colli chwaraewyr oherwydd anafiadau.

Roedd yna bryder am ffitrwydd y maswr Rhys Patchell ar ôl iddo adael y cae oherwydd cyfergyd - ei drydedd o fewn blwyddyn.

A does dim wythnos ers iddo gael gwybod ei fod wedi cael ei ddewis, o flaen Jarrod Evans, i fod yn un o ddau faswr Cymru ar y daith.

Yn y cyfamser fe benderfynodd Iwerddon na fyddai Cian Healy yn chwarae'r ail hanner yn dilyn asesiad cyfergyd, ac yna fe wnaeth Keith Earls hercian oddi ar y cae wedi awr o chwarae.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o’r llun,

Josh van der Flier yn hedfan heibio'r Cymry yn Stadiwm Aviva yn Nulyn

Fodd bynnag yn ystod y gynhadledd i'r wasg wedi'r gêm dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland ei fod yn ffyddiog y bydd Patchell ar yr awyren i Jap

"Roedden ni'n chwarae yn dda wrth ymosod yn ystod yr ail hanner, ond fe wnaethon ni gael ein llethu am i ni roi cyfleoedd i Iwerddon drwy gael ein cosbi," meddai.

"Roeddwn i wedi fy mhlesio gyda'i hanner cyntaf, fe geision chwarae ychydig bach o rygbi sydd yn beth positif iawn i ni.

"Ond dwi wedi fy siomi ein bod ni wedi rhoi mantais diriogaethol i Iwerddon yn yr ail hanner, ac wedi ildio cymaint o bwyntiau cosb."

Bydd Cymru'n herio Georgia yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ar 23 Medi, cyn wynebu Awstralia, Fiji, ac Uruguay yn eu gemau grŵp.an.