Agor ysgol newydd Godre'r Berwyn yn Y Bala

  • Cyhoeddwyd
Godre'r Berwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae tair ysgol wedi uno i greu yr ysgol newydd sef dwy ysgol gynradd - Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant ynghyd ag Ysgol Uwchradd Y Berwyn

Bydd ysgol newydd Godre'r Berwyn yn Y Bala, i blant 3-19 oed, yn agor ei drysau am y tro cyntaf ddydd Llun.

Mae'r adeilad newydd wedi'i godi ar hen safle Ysgol Uwchradd y Berwyn ar gost o tua £11m.

Mae tair ysgol wedi uno i greu yr ysgol newydd sef dwy ysgol gynradd, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant, ynghyd ag Ysgol Uwchradd Y Berwyn.

Ym mis Gorffennaf agorodd arddangosfa arbennig i gofnodi hanes yr ysgolion cynradd.

Disgrifiad o’r llun,

Bethan Emyr fydd Pennaeth Ysgol Godre'r Berwyn

Bu brwydr hir yn ardal Y Bala i gael statws cymunedol i'r ysgol newydd yn hytrach nag un eglwysig fel oedd yn cael ei ffafrio gan Gyngor Gwynedd.

Fe achosodd cynlluniau i agor ysgol eglwysig ffrae yn lleol, gyda nifer yn galw am ddynodi'r ysgol fel un cymunedol.

'Tân yn eu boliau'

Ym mis Gorffennaf, dywedodd y pennaeth sydd wedi'i phenodi ar gyfer Ysgol Godre'r Berwyn, Bethan Emyr: "Mae gennym ni adeilad modern a bendigedig a phwrpasol i ddarparu addysg i blant y dalgylch a dwi'n ffyddiog iawn bod addysg yn ardal Y Bala a Phenllyn yn ddiogel iawn.

"Mae 'na fuddsoddiad sylweddol wedi bod yn addysg yr ardal. Dwi'n gwybod bod y staff i gyd â thân yn eu boliau erbyn hyn i gael agor ac i gychwyn fel Ysgol Godre'r Berwyn,"

'I'r gymuned hefyd'

Fel rhan o gampws yr ysgol newydd, mae yna adnoddau pwrpasol ar gyfer y celfyddydau yn cynnwys stiwdio ddawns a theatr sydd â thaflunydd digidol i ddangos ffilmiau.

Yn gynharach eleni dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli'r Bala ar Gyngor Gwynedd: "Mae'n braf cyhoeddi mai Theatr Derek Williams fydd enw'r theatr ar safle Godre'r Berwyn a'r stiwdio yn cael ei henwi'n Stiwdio Buddug James: dau berson a roddodd oes o wasanaeth yn datblygu sgiliau perfformio sawl cenhedlaeth o bobl ifanc y cylch.

"Y bwriad rŵan ydy mynd ati i wneud yn siŵr fod y ddarpariaeth newydd yn cael ei defnyddio i'r eithaf gan y gymuned."

Bydd grŵp o'r gymuned leol yn gweithio gydag Ysgol Godre'r Berwyn a Chyngor Gwynedd i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer Theatr Derek Williams a Stiwdio Buddug James.