Teithiwr cudd: 'Fyddan ni byth yn mynd i Ffrainc eto'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wrecsam wedi beirniadu awdurdodau Ffrainc a Phrydain am y ffordd y gwnaethon nhw ddelio ag e a'i ddyweddi wedi i ddyn dieithr gael ei ddarganfod yn cuddio yng nghist eu car wrth iddyn nhw gyrraedd porthladd Calais.
Fe dreuliodd Sam Hemingway, 23, a Jordan Valentine, 20, ddwy noson mewn cell heddlu ym mis Mehefin ar ôl treulio noson yn Calais, lle ofynnodd yntau i hithau ei briodi.
Roedd y ffordd y cafodd y cwpwl eu trin wedi hynny, meddai Mr Hemingway yn "warthus", gan fynnu bod y cwpwl "mewn cymaint o sioc â'r swyddogion" a ffeindiodd y teithiwr cudd.
Mae'r cwpwl wedi penderfynu rhannu eu stori er mwyn helpu pobl eraill i osgoi cael eu hunain mewn trafferthion tebyg.
Roedden nhw wedi cael benthyg car Lexus chwaer Mr Hemingway ar gyfer y daith, ac wedi gadael y cerbyd yng nghanol Calais am "bedair i bum awr" er mwyn prynu anrhegion i'w hanwyliaid cyn dal y fferi i Dover.
Ond yna ddaeth tro hunllefus ar eu byd wrth i awdurdodau'r porthladd gynnal eu hymchwiliadau arferol.
Panig
Dywedodd Mr Hemingway - rheolwr cegin mewn gwesty - bod Ms Valentine "mewn bach o banig" oherwydd doedd hi ddim yn deall beth oedd yn digwydd.
Roedd hi'n anodd egluro i'r ddau archwiliwr bod wnelo'r teithiwr ddim byd â nhw, gan eu bod ond yn siarad "Saesneg sylfaenol iawn".
Cafodd y cwpwl eu dal mewn celloedd ar wahân - Ms Valentine ar ei phen ei hun, a Mr Hemingway gyda phedwar o bobl nad oedd yn siarad Saesneg, gan orfod gorwedd dan flanced ar y llawr.
Mae'n honni iddyn nhw gael eu hamddifadu rhag eu hawl i alwad ffôn, triniaeth feddygol a gwasanaeth cyfieithydd.
Roedd Ms Valentine, meddai, wedi methu â chymryd meddyginiaeth at gyflwr iechyd meddwl yn ôl yr arfer.
Fe lwyddodd i wneud galwad 20 eiliad i'w chwaer, er mwyn i hithau gysylltu ag awdurdodau'r DU yn Ffrainc a gofyn am gymorth.
"Fe wnaethon nhw ein trin [yn y ddalfa] fel bod rhaid ein bod yn gwybod rhywbeth... wedi derbyn arian," meddai.
Roedd Mr Hemingway ond â €25 arno ac fe welodd yr awdurdodau o gofnod ar-lein mai ond £300 oedd yn ei gyfrif banc.
Nam botwm cist y car
Wrth ail-archwilio'r car, fe dynnodd Mr Hemingway sylw swyddogion at nam gyda botwm ger cefn y car oedd yn golygu bod modd agor y gist hyd yn oed pan oedd y car wedi'i gloi.
Wedi'r noson gyntaf yn y ddalfa, ymddangosodd y cwpwl o flaen barnwr trwy gyswllt fideo. Cytunodd y barnwr i'w dal am gyfnod hirach, gan ddweud bod angen darllen eu hawliai iddyn nhw eto am hanner nos - ond ni wnaeth hynny ddigwydd yn ôl Mr Hemingway.
Wedi'r ail noson, fe gafodd Mr Hemingway ei yrru mewn cyffion o amgylch Calais yng nghwmni pedwar o swyddogion, gan olrhain symudiadau'r cwpwl ar y diwrnod roedden nhw wedi bwriadu gadael.
"Rwy'n amau eu bod yn gwirio lluniau CCTV," meddai. Cafodd y pâr eu holi eto cyn i'r heddlu eu rhyddhau am tua 17:00.
Maen nhw'n honni na chawson nhw fwyd na diod yr holl amser roedden nhw yn y ddalfa, a'u bod wedi gorfod cerdded pum milltir yn ôl at eu car.
Roedd un teiar yn fflat a bu'n rhaid galw am gymorth er mwyn teithio ymlaen i'r porthladd.
"Mae'n warthus y ffordd y gwnaethon nhw ein trin," meddai, gan honni bod swyddogion wedi trin siaradwyr Ffrengig yn y ddalfa yn well.
"Rwy'n deall eu bod yn trio gwneud eu gwaith ond ddylen nhw drin pawb yr un fath."
'Bydde ymddiheuriad wedi bod yn ddigon'
Dywedodd eu bod wedi cysylltu â swyddfa is-gennad Prydain ym Mharis am help i gwyno'n ffurfiol, ond mae'n dweud bod hwythau hefyd wedi eu siomi yn y pen draw, ar ôl ateb eu he-byst yn y lle cyntaf.
"Gawson ni ddim gwaith papur wrth inni gael ei rhyddhau a wnaethon ni ofyn ynghylch cael cymorth cyfreithiol i gael copi ond gawson ni ddim byd," meddai.
Mae'n dweud hefyd na wnaeth unrhyw swyddog o Brydain gysylltu â nhw yn y ddalfa er i'w chwaer amlinellu eu sefyllfa.
Dywedodd y Swyddfa Dramor: "Cynigiodd ein staff consylaidd gyngor i ddau berson Prydeinig a gafodd eu harestio a'u rhyddhau maes o law yn Ffrainc ym mis Mehefin."
Mewn sgwrs â Cymru Fyw, dywedodd Mr Hemingway: "Bydde ymddiheuriad wedi bod yn fwy na digon i ni.
"Fe wnaethon ni'r camgymeriad o adael ein car am ychydig o oriau. Wnaeth y posibilrwydd o beth ddigwyddodd wedyn ddim dod i'n meddyliau.
"Rydan ni eisiau i gymaint o bobol â phosib wybod beth ddigwyddodd i ni."
Ychwanegodd: "Fyddan ni byth yn mynd i Ffrainc eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2017
- Cyhoeddwyd8 Medi 2015
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2015