Syr Dave Brailsford wedi cael llawdriniaeth canser
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth tîm seiclo Ineos, Syr Dave Brailsford, wedi datgelu iddo gael llawdriniaeth ar gyfer canser y prostad.
Dywedodd iddo gael llawdriniaeth fis diwethaf, a hynny ar ôl cael diagnosis wythnos cyn dechrau'r Tour de France yng Ngorffennaf.
Fe fydd Mr Brailsford, sy'n 55 ac o Ddeiniolen, Gwynedd, yn cael gwybod ddydd Sadwrn a oedd y driniaeth yn llwyddiannus.
"Dwi wedi gorfod dysgu i ddod i dderbyn y peth. Roedd siarad amdano gyda'r tîm yn help mawr," meddai wrth bapur newydd The Times.
"Mae'n hawdd gofyn pam fod hyn wedi digwydd i mi.
"Dwi wedi gweithio yn galed er mwyn cadw'n iach, felly fe allwch fynd yn chwerw am y peth."
Mae'n credu fod y profiad eisoes wedi newid ei safbwynt ar fywyd.
Buddugoliaeth Egan Bernal yn y Tour de France eleni oedd y seithfed tro o fewn wyth mlynedd i Brailsford ddathlu llwyddiant yn y ras.
Brailsford oedd wrth y llyw pan enillodd Geraint Thomas y llynedd, ond dywedodd fod dathliadau eleni hyd yn oed yn fwy emosiynol.
"Ro' ni'n meddwl pwy a ŵyr, o bosib na fyddai'n gwneud hyn byth eto," meddai.
"O bosib o'n i just am fwynhau'r achlysur yn fwy."
"Dydy o ddim yn hawdd pan rydych yn gorfod siarad am ganser i'ch merch 14 oed, ond mae'n dod a chi'n agosach at bobl. Mae'n rhoi persbectif gwahanol ar fywyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2012