Y Bathdy Brenhinol bellach yn cynhyrchu gemwaith
- Cyhoeddwyd
Wrth i bobl ddibynnu llai ar arian parod mae'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant wedi ehangu i lunio gemwaith.
Mae'r darn o emwaith yn amrywio o ran pris o £80 i £2,000 a'r bwriad ar gyfer y Nadolig yw creu addurn aur 16ct i'w hongian ar y goeden.
Mae technegau gwasgu arian yn cael eu defnyddio i lunio llawer o'r gemau.
Dywedodd y rheolwr busnes Daniel Thomas: "Gan ein bod wedi arfer gweithio gyda metelau gwerthfawr, mae'r broses fathu yn cynnig ei hun ar gyfer gwneud gemwaith.
"Ry'n wedi bod yn bathu arian ers 1,100 o flynyddoedd ac ry'n yn sicrhau bod ein gwaith o gynhyrchu gemwaith o'r un safon uchel."
Dechreuodd y gwaith o gynhyrchu gemwaith yn y bathdy ddechrau eleni ac mae'r darnau - sy'n amrywio o gyfflincs i gadwyni - wedi bod ar werth ers mis Gorffennaf.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr y bathdy, Helen Cooper: "Ry'n ni'n ailddarganfod y Bathdy Brenhinol.
"Mae wedi bod o gwmpas ers 1,100 o flynyddoedd ac mae bellach yn cynnig ffordd arall o weithio er mwyn ein paratoi at y mileniwm nesaf.
"Dyw'r byd yn sydyn ddim yn peidio defnyddio arian yn gyfangwbl ond ry'n yn canfod fod yna newid yn y modd y mae pobl yn talu.
"Er bod hwn yn ddatblygiad pwysig, bathu arian yw'n gwaith hanfodol a dyna sy'n cynnal y bathdy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2016