Mugabe a fi: Argraffiadau Cymro o gyn-Arlywydd Zimbabwe

  • Cyhoeddwyd
mugabe a paul

Dros y penwythnos cafodd angladd Robert Mugabe, cyn-arlywydd a phrif weinidog Zimbabwe, ei chynnal yn Harare, prifddinas y wlad. Bu farw Mugabe ar 6 Medi, yn 95 oed.

Roedd yn cael ei glodfori gan y gorllewin yn nyddiau cynnar ei arweinyddiaeth, ond erbyn diwedd ei deyrnasiad yn 2017 roedd yn ffigwr hynod ddadleuol.

Rhywun a oedd yn byw yn Zimbabwe ar ddechrau'r 1980au, ac yn wir oedd yn swyddog ym myddin Mugabe ar un adeg, yw'r academydd a newyddiadurwr o Drelái, Caerdydd, yr Athro Paul Moorcraft.

'Dyn hynod alluog'

Paul Moorcraft oedd un o'r newyddiadurwyr cyntaf i gyfweld â Mugabe yn dilyn ei ddyrchafiad i rym, ac mae'n cofio'r argraffiadau a wnaeth yr arweinydd arno.

"Nes i gyfarfod Mugabe am y tro cyntaf ym mis Ionawr 1980 pan o'n i'n ei gyfweld ar gyfer TIME. Roedd e newydd orffen ei gyfnod yn byw yn y goedwig lle'r oedd yn arwain ei fyddin guerilla, ond roedd yn ddyn eiddil a 'merchetaidd' yn hytrach na'r darlun 'macho' y byddech yn ei ddisgwyl.

"Fe oedd y gwleidydd clyfraf - du neu wyn - i mi gyfarfod tra o'n i'n byw yn Affrica. Rwy'n cofio fe'n siarad â rhyw acen hynod grand, fonheddig 'home counties'.

"Roedd yn ddyn hynod alluog gydag wyth gradd, gan gynnwys dwy radd mewn economeg - ond dylwn i fod wedi dyfalu ei fod yn well-qualified i ddifetha' economi cwbl hyfryd ei wlad!"

Ffynhonnell y llun, ALEXANDER JOE
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mugabe yn arddel cenedlaetholdeb Affricanaidd, ac yn yr 1970au ac 1980au roedd yn galw ei hun yn 'Marxist-Leninist', cyn disgrifio ei hun fel sosialydd o'r 1990au ymlaen

Dyn llawn gwrthgyferbyniad

Hwyrach ymlaen yn ei yrfa cafodd Paul Moorcraft ei atal rhag teithio i Zimbabwe, dan orchymyn personol Robert Mugabe, a chafodd ei fygwth o gael ei boenydio â charchar. Dywedodd y Swyddfa Dramor wrtho na fyddent yn ei helpu os caiff ei ddal yno, ond er hyn aeth Moorcraft yno yn anghyfreithlon sawl gwaith.

"Roedd y dyn yn baradocs - yn Gatholig ac yn Farcsydd. Roedd yn chwyldroadwr ceidwadol a oedd yn caru teulu brenhinol Prydain, ond hefyd yn casáu'r bobl gwyn oedd wedi setlo yn ei wlad.

"Er hyn roedd Mugabe yn cyd-fynd yn well gydag Ian Smith, y chwyldroadwr gwyn a oedd yn Brif Weinidog ar Rhodesia (fel y gelwir Zimbabwe'r adeg yna), nag oedd gydag arweinydd y blaid ZAPU, Joshua Nkomo, a aeth mlaen i fod yn ddirprwy iddo.

"Roedd e'n dweud wrtha'i ei fod yn hoff o Geidwadwyr hen ffasiwn, fel Margaret Thatcher a'r Arglwydd Soames, Llywodraethwr Zimbabwe. Ond roedd yn casáu gwleidyddion Llafur, yn enwedig Tony Blair a oedd yn ôl e'n arwain 'cabinet llawn hoywon'.

"Roedd gan Mugabe atgasedd creulon at bobl hoyw, ac roedd yn eu herlid drwy gydol ei 37 mlynedd mewn grym. Yn wir, tra roedd Mugabe yn Brif Weinidog fe garcharodd arlywydd y wlad, Canaan Banana, am weithredoedd hoyw honedig.

Ffynhonnell y llun, Monti Spry
Disgrifiad o’r llun,

Robert Mugabe yn sefyll ar risiau 10 Downing Street gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, Mai 1980

"Yn dilyn cyfnod o ryfel cartref daeth Cytundeb Lancaster House (ddaeth â'r rhyfel i ben ac arwain at greu Zimbabwe) yn 1979, fe greodd Thatcher, y Prif Weinidog mwyaf asgell dde yn hanes diweddar Prydain, yr amodau iawn i roi buddugoliaeth ddemocrataidd i Farcsydd ennill yn Affrica am y tro cyntaf (Mugabe)."

Dywed Yr Athro Moorcraft bod Mugabe wedi cael llwyddiant cynnar mewn rhai meysydd.

"Fel cyn-athro fe wnaeth wella'r ysgolion. Hefyd, yn dilyn rhyfela yn erbyn Mozambique fe yrrodd 25,000 o filwyr i mewn o Zimbabwe, gan ddod i ddealltwriaeth gydag arweinydd y rebels, Afonso Dhlakama - dyn yr oeddwn i'n 'nabod yn dda.

"Roedd dod â'r rhyfel yn Mozambique i ben yn dipyn o gamp ganddo, ond mae rhaid dweud hefyd drwy ymyrryd yn y rhyfel yn y Congo fe wnaeth biliynau o bunnoedd iddo fo'i hun a'i gyfoedion gan ddinistrio economi Zimbabwe."

Ffynhonnell y llun, PaulMoorcraft
Disgrifiad o’r llun,

Paul Moorcraft gyda Afonso Dhlakama, arweinydd y rebels a oedd yn gwrthryfela yn erbyn byddin Robert Mugabe

Yn ôl Paul Moorcraft camgymeriad mwyaf Mugabe oedd dal 'mlaen i rym am rhy hir:

"Fe ddylai fod wedi gadael y swydd yn dilyn ei dymor cyntaf, efallai ei ail, fel y gwnaeth Mandela (gŵr a oedd yn casáu Robert Mugabe). Os fyddai wedi gwneud hyn fe fyddai wedi bod yn arwr i'r wlad am byth.

"Ond roedd yn rhedeg y wlad dan amodau fel oedd yn rhedeg byddin guerilla gyda thueddiad i droi at drais."

Erbyn diwedd cyfnod Mugabe mewn grym fe drodd Zimbabwe o un o'r gwledydd cyfoethocaf yn Affrica i un o'r tlotaf.

"Roedd chwyddiant yn yr ail uchaf mewn hanes, a doedden nhw ddim hyd yn oed yn defnyddio arian eu hunain - roeddent yn defnyddio Rand De Affrica a'r Dollar Americanaidd. Roedd dros 3 miliwn o bobl wedi gadael y wlad ac roedd diweithdra yn 95% - does bron dim dŵr na thrydan yno bellach."

Sut fydd Mugabe'n cael ei gofio?

"Bydd hanes yn ei farnu fel bwystfil. Bydd rhai o bobl Affrica yn galaru amdano, ond bron dim yn Zimbabwe. Roedd y dathlu pan gollodd rym yn 2017 yn debyg i'r dathlu a welais yn 1980 pan enillodd yr etholiad (yn rhannol gyda thrais).

"Beth sy'n cael ei ddiystyru yw'r $2 biliwn oedd ganddo mewn banciau tramor, y tai yn Zimbabwe, De Affrica ac Asia... beth sy'n digwydd i'r holl arian sydd wedi ei ddwyn gan y bobl?

"Bu farw Mugabe mewn ysbyty moethus yn Singapore, efallai am ei fod ef ei hun wedi dinistro y gwasanaeth iechyd yn Zimbabwe."

Ffynhonnell y llun, PAulmoorcraft
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Paul Moorcraft yn gweithio gyda lluoedd arfog Mugabe am 18 mis yn ystod ei gyfnod yn byw yn Zimbabwe. Roedd Moorcraft yn uwch-gyfarwyddwr yn Academi Filwrol Sandhurst rhwng 1973 ac 1975.

"Pobl anhygoel, llywodraethau gwarthus"

"Collais ffrindiau yn y rhyfel cartref yn Zimbabwe - du a gwyn. Ond dwi yn ystyried fy mhum mlynedd yn y wlad fel rhai gorau fy mywyd. Gellir crisialu Affrica fel hyn - pobl anhygoel, llywodraethau gwarthus.

"Mae Zimbabwe mewn cyflwr lot gwaeth nawr nac yn 1980, ond mewn ffordd o leiaf fe roddodd Mugabe rywfaint o hunan-barch i'r brodorion, a'r hawl iddynt wneud eu camgymeriadau eu hunain.

"Dywedodd ffrind da i mi, sy'n academydd a ymladdodd gyda Mugabe, ei fod bellach yn casáu beth sydd wedi digwydd i'w wlad - mae e'n byw yn alltud yn y wlad yma.

"Ond fe ddywedodd wrtha i fod Mugabe wedi newid pethau yn Zimbabwe: "O leia' erbyn hyn does neb yno'n fy ngalw i yn 'kaffir'." (term hiliol a ddefnyddir yn erbyn pobl ddu ar gyfandir Affrica).

Cafodd angladd Mugabe ei gynnal yn Stadiwm Rufaro, Harare ar 14 Medi, gyda thri chwarter y seddi'n wag.

Ffynhonnell y llun, TONY KARUMBA
Disgrifiad o’r llun,

Milwyr yn cario arch Mugabe i Stadiwm Rufaro ar 13 Medi, ddiwrnod cyn yr angladd

Hefyd o ddiddordeb: