Cymeradwyo gorsaf bŵer newydd ger Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae cais datblygu ar gyfer gorsaf bŵer nwy ar gyrion Abertawe wedi ei gymeradwyo gan Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Cafodd cais gwreiddiol Abergelli Power Limited (APL) ei gyflwyno dros flwyddyn yn ôl.
Bydd yr orsaf yn gallu cynhyrchu 299 MW o drydan gyda phwyslais ar fedru ymateb yn gyflym i anghenion y National Grid ar adegau prysur.
Bydd yr orsaf wedi'i lleoli i'r gogledd o ddinas Abertawe rhwng Llangyfelach a Llwyncelyn.
Mae'r penderfyniad yn dilyn cymeradwyaeth i'r cynllun gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn dilyn proses ymgynghori o chwe mis.
Dywedodd cwmni APL y gallai'r orsaf ddechrau cynhyrchu trydan erbyn 2022 unwaith bydd cyllid a chynllunio mewn lle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2014