'Cofnodion maethwyr LHDT' yn annigonol

  • Cyhoeddwyd
Sarah a SerenaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Sarah Jones a'i gwraig Serena faethu eu plentyn cyntaf yn 2015

Dyw nifer y bobl LHDT sy'n cael eu recriwtio i fod yn ofalwyr maeth ddim yn cael eu cofnodi yn gyson ac felly mae'n anodd canfod cynnydd, yn ôl un elusen.

Dywed y Gymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA Cymru) fod adroddiadau o gynnydd ond dyw pob awdurdod lleol ddim yn cadw cofnod.

Mae Sarah Jones o Abertawe wedi mabwysiadu dau o blant a dyw'r prinder data, meddai, "ddim yn ddigon da".

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael cais i ymateb,

Dywedodd Ms Jones: "Er mwyn gwneud gwelliannau yn amrywiaeth eich tîm o ofalwyr maeth mae'n rhaid i chi wybod beth yw'r ystadegau presennol.

Mae cael amrywiaeth o ofalwyr maeth yn cyflwyno mwy o brofiadau - sydd o fudd i'r awdurdod."

Dywedodd Sarah Thomas o AFA Cymru: "Ry'n am sicrhau fod pob awdurdod lleol yn gallu adrodd ar ddemograffeg eu gofalwyr maeth.

"Mae data sydd wedi'i gasglu yn ystod y tair blynedd ddiwethaf yn dangos bod y niferoedd sy'n cael eu recriwtio yn codi ond dyw pob awdurdod lleol ddim yn nodi y niferoedd o ofalwyr maeth LHDT ac felly hyd yma ry'n ddim yn gallu nodi'r cynnydd."

Fe faethodd Ms Jones a'i gwraig Serena Jones drwy gynllun gan Gyngor Abertawe wedi iddyn nhw siarad â nhw yn ystod Pride Abertawe.

Dywedodd: "Dwi'n meddwl bod Maethu Abertawe wedi gwneud llawer o waith er mwyn ymestyn i'r gymuned LHDT.

"Roeddem eisiau cael plant ein hunain am amser hir... ond mae hynny yn amlwg yn fwy cymhleth a wnaeth e ddim gweithio.

"Wrth i ni feddwl beth oedd y camau nesaf fe wnaethon gyfarfod â Maethu Abertawe yn Pride - roedd e fel pe bai ffawd wedi'n taro."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah a Serena Jones wedi bod gyda'i gilydd ers 15 mlynedd

Fe faethodd Sarah a Serena eu plentyn cyntaf yn 2015 a phlentyn arall ychydig fisoedd wedi hynny.

Fe arhosodd y cyntaf am rai misoedd - maent yn parhau mewn cysylltiad ac yn anfon anrhegion pen-blwydd - ac mae'r ail sydd bellach yn 12 oed wedi bod gyda nhw ers pedair blynedd.

Dywedodd Ms Jones: "Os ydych yn LHDT ry'ch chi'n cyfoethogi bywyd y plant - rhywbeth mae angen i chi fod yn falch ohono."

Ychwanegodd bod ysgol ei phlentyn, cyfoedion a rhieni eraill wedi bod yn hynod gefnogol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew White o Stonewall Cymru yn galw am ragor o hysbysebion sydd wedi'u targedu'n benodol at warchodwyr LHDT

Mae ffigyrau Mawrth 2018 gan Barnardo's Cymru yn dangos bod 6,405 o blant yn cael gofal yng Nghymru a bod 74% o'r rhai hynny yn cael gofal maeth.

Wedi i 22 awdurdod lleol Cymru gael eu holi am faint o ofalwyr maeth LHDT yr oeddynt yn eu cyflogi fe wnaeth tri o'r saith awdurdod, a wnaeth ymateb, ddweud eu bod yn cyflogi gofalwyr maeth LHDT ond nad oedd ganddynt ffigyrau. Dywedodd y pedwar awdurdod arall eu bod yn cyflogi 12 rhyngddynt.

Mae Andrew White, yn gyfarwyddwr Stonewall Cymru ac yn un o ymddiriedolwyr Tact, elusen faethu a mabwysiadu fwyaf y DU ac yn ei ôl e mae cadw cofnod yn bwysig.

Dywedodd: "Mae'r egwyddor o fonitro nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol, yn rhan o ddyletswyddau cyfartaledd Cymru ers rhai blynyddoedd.

"Mae monitro yn bwysig gan ei fod yn canfod cynnydd a dyna pam ry'n ni yn Tact yn cadw cofnodion manwl ar bob un o'n gofalwyr maeth, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol."

Fe alwodd Mr White hefyd am hysbysebu a fyddai'n targedu gofalwyr LHDT yn well.