Gohirio achos marwolaeth maes gwersylla tan fis Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae achos dyn 26 oed o Fanceinion a yrrodd ei gar i bebyll ar faes gwersylla ger Caernarfon wedi ei ohirio tan fis Hydref wedi oedi o ran derbyn tystiolaeth feddygol.
Roedd Jake Waterhouse eisoes wedi pledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol trwy yrru'n beryglus ym maes pebyll Rhyd y Galen ar gyrion Bethel ar 19 Awst mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys Ynadon Llandudno.
Bu farw un o'r pedwar o bobl a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad, Anna Roselyn Evans o ardal Aberystwyth, wedi'r gwrandawiad hwnnw.
Ond clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod tystiolaeth feddygol ynghylch achos marwolaeth Mrs Evans ddim ar gael eto a bod angen wedyn i'r Twrnai Cyffredinol newid y cyhuddiad yn erbyn Mr Waterhouse.
Dywedodd Sion ap Mihangel ar ran yr erlyniad bod yr oedi yn anffodus gan fod y diffynnydd eisoes wedi dynodi y byddai'n derbyn newid i'r cyhuddiad ac yn barod i symud ymlaen i'r broses ddedfrydu.
Ychwanegodd bod angen derbyn tystiolaeth feddygol hefyd mewn cysylltiad â'r unigolion eraill a gafodd eu hanafu.
Yn ôl y Barnwr Rhys Rowlands, roedd yr oedi yn rhwystredig gan fod yna dros dair wythnos ers marwolaeth Mrs Evans.
Dywedodd wrth y diffynnydd bod rhaid gohirio'r achos tan 22 Hydref, gan ei rybuddio i ddisgwyl dedfryd hir o garchar ar ganlyniad yr achos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019