Yr Ifanc a Ŵyr: Rhys Meirion ac Elan Meirion

  • Cyhoeddwyd
Elan a Rhys MeirionFfynhonnell y llun, Elan Meirion

Mae'r tenor Rhys Meirion yn dathlu 20 mlynedd o ganu'n broffesiynol eleni, trwy berfformio mewn cyngherddau arbennig gyda'i ferch Elan. A hithau'n 20 oed, mae'n cychwyn ar yrfa yn y byd perfformio ei hun gan ddilyn cwrs MA mewn perfformio yng Nghaerdydd.

Yma mae'r tad a'r ferch yn sôn am eu perthynas, ac am y mwynhad o rannu llwyfan:

Rhys Meirion - "Mae Elan wedi bod yn un reit ddramatig o'r cychwyn!"

Roedd hi'n blentyn hapus iawn, yn bositif, a wastad yn ffeindio pethau i neud. Doedd dim angen ei diddori hi, oedd hi'n diddori ei hun. Ac yn perfformio drwy'r amser. Roedd hi bob amser eisiau gwneud rhyw sioe.

Oedd hi'n un o'r plant 'ma, os oedd hi mewn sioe yn yr ysgol, pan oedd hi tua chwech neu saith oed - a mae hi'n chwerthin rŵan yn edrych nôl - rargian roedd hi'n mynd amdani!

Mae ganddon ni fideos a byddwn ni'n edrych yn ôl ac yn chwerthin, oedd hi'n drama queen go iawn yn yr oed yna, a 'dan ni'n tynnu ei choes hi.

Cafodd Elan ei geni yn 1999, pan o'n i yng nghanol opera, ar fy nhymor olaf yn y coleg yn y Guildhall. A chware teg iddi cafodd ei geni ar ddydd Sadwrn, felly o'n i'n gallu bod adre' dros y penwythnos, a ddim torri llawer ar yr ymarferion. R'on i wedi gallu bod yno.

Roedd yr amseroedd cynnar yna'n rhai anodd, mewn ffordd, achos mi o'n i ffwrdd yn y coleg yn Llundain, wedyn es i'n syth i'r English National Opera ar y Young Singers Programme, felly o'n i'n treulio'r rhan fwya o'r amser yn Llundain a dod adre ar benwythnosau. Mi oedd Osian fy mab yn ddwy a hanner ar y pryd hefyd, roedd hi'n gyfnod prysur.

O'n i'n dod adre ar y trên am benwythnosau hir, a beth mae rhywun yn ei gofio yw'r croeso o'n i'n ei gael pan o'n i'n dod adre. Elan oedd y cynta' i ddod i'r drws, roedd y croeso yn hyfryd, ond yr ochr arall, roedd yn rhaid dweud ta-ta wedyn, a'r dagrau yn powlio. Roedd hi'n anodd.

Ffynhonnell y llun, Rhys Meirion
Disgrifiad o’r llun,

Rhys ac Elan yn canu deuawd

'Does ond un peth oedd hi eisiau neud'

Efo Elan does ond un peth oedd hi eisiau neud ers pan oedd hi'n fychan, perfformio a chanu. Bron iawn, roedd hi'n ymarfer mwy na fi. Roedd yn rhaid i fi ddweud wrthi am fod yn dawel i fi gael ymarfer - o'n i mewn un stafell ac Elan mewn stafell arall.

Mae cael perfformio gyda'n gilydd yn destun balchder mawr i fi, dwi wrth fy modd. Mae'n rhywbeth arbennig iawn gallu rhannu'r llwyfan gyda'ch plentyn. Ni oedd y cynta' i ganu deuawd, fel rhiant a phlentyn, ar lwyfan un o gyngherddau'r Steddfod Genedlaethol. Yn 2013, fe wnaethon ni ganu yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Dinbych, oedd hynna'n rhywbeth reit arbennig.

'Cymaint o ffrindiau ag ydan ni tad a merch'

Rydyn ni'n agos iawn, yn gallu dweud rhywbeth wrth ein gilydd. Bron iawn, galle chi ddweud ein bod ni yn gymaint o ffrindiau ag ydan ni yn dad a merch.

Ond dwi'n trio peidio rhoi gormod o gyngor iddi, achos mae'n rhaid iddi ffeindio ei chwys ei hun a sefyll ar ei thraed ei hun. Yr unig beth dwi'n dweud wrthi yw i wrando ar ei llais ei hun. Gwrando ar bawb, a cael rhyw ffilter bach a defnyddio beth sy'n dy siwtio di.

Yn aml iawn, nid eich dewis chi ydy o lle chi eisiau mynd, mae'n rhaid gwrando ar y llais. Mae hynny'n bwysig i gantorion ifanc, ac i fynd hefo'i dyhead.

Os ydy hi'n teimlo ei bod hi'n poeni am rywbeth, gall ddod i ofyn, a wedyn fedra i wrando arni, rhag ofn iddi wneud camgymeriad sy'n ddrwg i'r llais.

Mae Nia [fy ngwraig] a fi'n trio bod yn ifanc ein ffyrdd a trio ymddiddori yn beth mae'r tri plentyn yn ymddiddori ynddo. Beth sy'n bwysig ydy bod rhywun yn creu awyrgylch lle maen nhw'n gallu dweud rhywbeth wrthych chi, a ddim yn teimlo 'dwi ddim am ddweud hynna wrth Dad'.

Atgofion

Canais am y tro cynta' yn broffesiynol yn Awst 1999 yn Glyndebourne, yr un flwyddyn ag y cafodd Elan ei geni.

Mae hi 'di bod i nifer o gyngherddau pwysig, mawr, lle dwi wedi perfformio, ac mae'n deimlad reit gynnes, a dwi bob amser yn falch o gael y teulu yn y gynulleidfa, a chael y feirniadaeth ganddyn nhw wedyn!

Ffynhonnell y llun, Elan Meirion

Mae'n destun balchder i mi bod Elan yn llwyddo, ac yn cael y cyfleon yma yn yr oed y byswn i wedi licio eu cael.

Elan Meirion - "Mae Dad yn edrych ar yr ochr bositif o bob dim"

Dwi'n cofio gwylio Dad yn ymarfer, ac yn ôl Mam, pan o'n i'n blentyn bach, r'on i wastad yn trio copïo fo'n canu. Byswn i'n estyn copi canu, ac yn perfformio, er bod y copi upside down!

Rydan ni'n deulu andros o agos, mam, dad, fy mrawd a'n chwaer. Dwi'n meddwl ei fod yn help fod gan y teulu cyfan ddiddordeb mewn canu a pherfformio.

Mae Dad yn berson hapus, dydy o ddim yn gadael i ddim byd ei boeni fo ormod, mae'n edrych ar yr ochr bositif i bob dim.

Ac mae lot o bobl yn dweud mod i wedi cael hynna ganddo, achos dwi fel person yn reit calm ac yn trio edrych ar yr ochr orau o bob dim, felly dyna lle dwi'n cael hynna.

Roedd Dad a fi yn andros o agos yn tyfu fyny achos o'n i'n edrych fyny ato fo. O'n i'n licio mynd i gyngherddau ac ymarferion i'w wylio fo.

Mae'n rhyfedd, achos ei fod o 'di bod yn perfformio ers i mi gael fy ngeni, fedrai ddim meddwl amdano fath â athro. Mae wastad 'di bod yn Dad sy'n canu i fi.

'Agosach nag erioed'

Mae o'n ysbrydoliaeth i fi, pan dwi'n mynd i'w weld o ar lwyfan, a gweld yr argraff mae o'n gael ar bobl eraill a gweld pobl yn mwynhau ei wylio fo'n canu, mae'n neud i fi fod eisiau gwneud yr un peth.

O'n i wastad mewn penbleth - i fynd i lawr y trywydd clasurol neu'r sioeau cerdd. Wedyn fe wnes i gymryd rhan yn sioe Les Misérables, y fersiwn Cymraeg i ysgolion, ac es i weld y sioe yn Llundain, o'n i'n gwybod mai dyna o'n i am wneud.

Mae Dad wedi bod yn help mawr i fi, yn rhoi cyngor ar sut i edrych ar ôl y llais a phethe bach bob dydd fel sut i fod yn yr ystafell ymarfer.

Ffynhonnell y llun, Rhys Meirion
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod graddio Elan a Rhys Meirion yn y seremoni fel Cymrawd

'Dan ni'n agosach nag erioed erbyn hyn. 'Dan ni 'di 'neud lot mwy o berfformio efo'n gilydd wrth i fi fynd yn hŷn, 'dan ni yng nghwmni ein gilydd lot.

Dwi 'di tyfu fyny yn edrych fyny ato fo yn meddwl 'dyna dwi isho bod', a rŵan dwi'n cael sefyll ar y llwyfan, a chael canu efo fo, bron ar yr un lefel ag o, a dwi wrth fy modd yn canu deuawdau efo fo.

Ar y teledu, mae o mor naturiol ei ffordd. Dwi'n gweld Dad, fatha mae o. Mae o'n dod mlaen efo pawb, a dwi wrth fy modd yn ei wylio fo.

Be' dwi di dysgu yw i byth rhoi fyny. Ti ddim yn mynd i gael bob dim yn syth, ond i ddyfalbarhau a dal i fynd amdani. A dysgu o bob clyweliad.

Mae Dad yn berson hapus iawn, wastad yn chwerthin, dwi ddim yn meddwl bod 'na ddiwrnod yn mynd heibio lle dydy o ddim yn chwerthin, dwi byth yn colli Dad - dwi'n gwrando allan am y chwerthin a fedrai ffeindio fo!

Hefyd o ddiddordeb: