Plaid: 'Dylai gofal cymdeithasol fod am ddim

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae comisiwn gofal, dolen allanol a sefydlwyd gan Plaid Cymru yn argymell y dylai gofal cymdeithasol fod am ddim yn ôl yr angen.

Mae'r comisiwn yn amcangyfrif y byddai gofal cymdeithasol am ddim yn costio £247m y flwyddyn ac mae'n argymell y dylai gael ei ariannu gan drethiant cyffredinol.

Mae Plaid Cymru yn debygol o gynnwys y syniad yn eu polisi ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2021.

Mae £274m swm yn llai na 1.5% o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu am ddim drwy'r GIG ond mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu gan gymysgedd o wasanaethau - cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Dywedodd Helen Mary Jones AC, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod y polisi yn "cywiro anghyfiawnderau' pobl â dementia sy'n gorfod gwerthu eu cartrefi i dalu am filiau".

'Gwerthu cartrefi'

Nododd Ms Jones hefyd fod y system bresennol yn "aneffeithlon, anghynaliadwy ac yn creu'r cymhellion anghywir i ddarparwyr".

"Rydyn ni'n aml yn clywed am straeon enbyd unigolion o bob rhan o Gymru nad ydyn nhw'n derbyn y gofal cymdeithasol sydd ei angen arnyn nhw megis pobl â dementia sy'n gorfod gwerthu eu cartrefi i dalu am filiau gofal," meddai.

Ychwanegodd: "Rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol a gofal cymdeithasol gael parch, statws a chyflog o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol."

Sefydlodd Plaid Cymru y Comisiwn - sy'n cynnwys aelodau o'r blaid ac arbenigwyr iechyd - er mwyn canfod "ateb radical" i "her anferth" gofal cymdeithasol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae poblogaeth hŷn a thoriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi cynyddu'r straeon ar ddarparwyr gofal cymdeithasol.