Cwpan Rygbi'r Byd: Dim pryderon anafiadau i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Dan BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dan Biggar anaf i'w ben yn y dacl yma ar Samu Kerevi, a bu'n rhaid iddo adael y maes

Does gan garfan rygbi Cymru ddim pryderon am anafiadau cyn eu gêm nesaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Fiji.

Mae Cymru ar frig Grŵp D wedi buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Tokyo ddydd Sul.

Mae'r garfan wedi symud i'w canolfan ymarfer newydd yn Otsu, ac ar ôl cyrraedd fe wnaethon nhw gynnal sesiwn anffurfiol i'r wasg yno.

Un pryder oedd ffitrwydd Dan Biggar ar gyfer gêm Fiji.

Bu'n rhaid iddo adael y cae yn erbyn Awstralia yn dilyn ergyd i'w ben, gyda Rhys Patchell yn dod ymlaen yn ei le.

Disgrifiad,

Owen Watkin: 'Cwpl o ddiodydd wedi'r gêm, dim byd gwirion'

Yn dilyn Asesiad Anaf Pen, doedd dim modd iddo ddychwelyd i'r maes. Fe gafodd asesiad pellach wyneb yn wyneb ddydd Llun ynghyd â phrofion eraill.

Mae disgwyl iddo ymarfer yn llawn gyda gweddill y garfan ddydd Gwener.

Fe fydd Cymru yn herio Fiji ddydd Mercher, 9 Hydref cyn y gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Uruguay ar 13 Hydref.