Sala: Caerdydd i apelio yn erbyn penderfyniad FIFA
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn apelio yn erbyn penderfyniad y corff rheoli, FIFA, i'w gorchymyn i dalu £5.3m (€6m) i Nantes am drosglwyddiad y diweddar chwaraewr, Emiliano Sala.
Mae'r clybiau wedi bod yn dadlau dros y taliad ers marwolaeth yr Archentwr mewn damwain awyren ym mis Ionawr.
Bu farw'r ymosodwr, 28, wrth deithio o Ffrainc i ymuno â'i glwb newydd.
Mewn datganiad dywed y clwb eu bod nhw'n "hynod siomedig gyda phenderfyniad y Pwyllgor Statws Chwaraewyr" i ddyfarnu yn eu herbyn.
Roedd Caerdydd wedi dadlau na ddylen nhw dalu'r ffi o £15m gan nad oedd Sala yn chwaraewr Caerdydd yn swyddogol pan fu farw.
Heb ystyried dogfennaeth lawn
Y ffi am Sala oedd yr uchaf erioed i Glwb Pêl-droed Caerdydd ei gytuno am chwaraewr, ac mae'r swm o £5.3m yn cyfateb i'r rhandal cyntaf o'r ffi llawn.
"Mae'n ymddangos bod y pwyllgor wedi dod i'w gasgliad ar ran fach o'r anghydfod cyffredinol, heb ystyried y ddogfennaeth lawn a gyflwynwyd gan Glwb Dinas Caerdydd i FIFA," meddai'r datganiad.
"Serch hynny, mae tystiolaeth glir o hyd na chwblhawyd y cytundeb trosglwyddo yn unol â gofynion cytundebol niferus y gofynnodd Nantes amdanynt, a thrwy hynny ei wneud yn annilys.
Fe fydd y Clwb nawr yn cyflwyno eu hapêl i'r Court of Arbitration for Sport (CAS).

Emiliano Sala oedd yr unig deithiwr ar yr awyren oedd yn cael ei hedfan gan David Ibbotson
"Byddwn yn apelio at y Llys er mwyn ceisio penderfyniad sy'n ystyried yr holl wybodaeth cytundebol perthnasol ac yn rhoi eglurder ar y sefyllfa gyfreithiol lawn rhwng y ddau glwb."
Cafodd Sala ei gyhoeddi fel chwaraewr newydd Caerdydd ym mis Ionawr.
Roedd yn teithio i Gaerdydd pan blymiodd yr awyren Piper Malibu yr oedd yn teithio ynddi i Fôr Udd ar 21 Ionawr.
Cafodd ei gorff ei ganfod ym mis Chwefror ond dydy'r peilot, David Ibbotson, 59 o Sir Lincoln, byth wedi cael ei ganfod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2019