Teyrngedau i ffotograffydd 'annwyl ac addfwyn'

  • Cyhoeddwyd
Keith MorrisFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Mae'r ffotograffydd Keith Morris wedi cael ei ddisgrifio fel dyn "annwyl ac addfwyn" a'r "tad-cu gorau allen ni fod wedi gofyn amdano", wrth i deyrngedau lu gael eu rhoi iddo.

Ddydd Sadwrn fe ddywedodd Heddlu Dyfed Powys bod corff wedi ei ganfod ar draeth ger Borth yng Ngheredigion wrth iddyn nhw chwilio amdano.

Doedd Mr Morris heb gael ei weld ers amser cinio ddydd Iau, ac fe gafodd yr heddlu adroddiad ddydd Gwener ei fod ar goll.

Ymhlith y rheiny sydd wedi cyhoeddi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol mae aelodau o'i deulu a nifer o bobl o Geredigion a thu hwnt.

'Mab anwylaf y dref'

Roedd Mr Morris yn ffotograffydd llawrydd adnabyddus yn ardal Aberystwyth, ac yn gyfrannwr cyson i raglenni teledu a radio.

Mewn neges ar ei thudalen Facebook, dywedodd ei ferch Ffion y bydd colled fawr ar ei ôl gan gyfeirio at yr amser byr a gafodd gyda'i mab hi.

"Rydyn ni'n dy garu di gymaint, diolch am fod y tad-cu gorau allen ni fod wedi gofyn amdano."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan sam medeni

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan sam medeni

Cafodd teyrngedau eraill eu rhoi gan nifer o bobl eraill yr ardal gan gynnwys AC Ceredigion, Elin Jones.

"Ar y prom, yn y dre', ym mhob protest a pharêd. Yn adlewyrchu amrywiaeth lliwgar Aberystwyth yn ei luniau, ac yn eu cyhoeddi i'r byd," meddai.

"Mae meddwl am Aberystwyth heb Keith a'i gamera yn boenus o anodd. Ef oedd mab anwylaf y dref."

Disgrifiad,

"Roedd Keith yn gymeriad annwyl ac addfwyn"

Ychwanegodd y cynghorydd Mark Strong fod Keith Morris wedi gwneud "cymaint o dda yn hysbysebu Aberystwyth mewn modd bositif efo'i luniau penigamp dros amser hir".

"Dyn hyfryd, oedd wastad yn dweud helo a gwên gynnes ar ei wyneb," ychwanegodd.

Ymhlith y negeseon eraill ar Twitter, dywedodd pennaeth cyfathrebu'r Eisteddfod Genedlaethol Gwenllian Carr fod "Keith yn ran fawr o gofnodi'r Eisteddfod dros y ddegawd ddiwethaf a'i luniau bob amser yn lliwgar, llawn egni a hwyl".

Ychwanegodd y ffotograffydd Emyr Young: "Trist iawn clywed am Keith Morris y ffotograffydd. Bydd colled ar ei ôl yn Aberystwyth."

Dyw'r corff gafodd ei ganfod heb gael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond fe ddywedodd yr heddlu ddydd Sadwrn fod teulu Keith Morris wedi cael gwybod am y datblygiad.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn apelio ar unrhyw â gwybodaeth allai eu helpu i ddarganfod beth ddigwyddodd i Mr Morris ar ôl iddo gael ei weld diwethaf i gysylltu â nhw.