Carwyn Jones: O'r Dyn Gwyllt i artist y dannedd morfil

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones gyda rhai o'i ddarnau celf ar werth
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn gyda rhai o'i weithiau celf ar asgwrn sydd ar werth

Mae wedi bod yn un o'r Genod Droog, ac yn Ddyn Gwyllt, ond mae Carwyn Jones o Borthmadog wedi torri cwys newydd eto bellach fel artist sy'n defnyddio'r grefft brin o gerfio ar asgwrn i greu darnau celf wedi eu hysbrydoli gan y môr.

Ar ôl treulio'r 2000au yn perfformio ar lwyfannau fel DJ Kim De Bills gyda'r band hip hop Genod Droog, erbyn 2016 roedden ni'n ei adnabod fel y dyn ar y teledu oedd yn ceisio goroesi yn yr awyr agored drwy fyw ar ddim ond ei sgiliau hela.

Erbyn hyn mae'n dweud mai "phase" oedd y Dyn Gwyllt, ond mae wedi canfod ei hun yn mynd nôl at ei gariadon cyntaf, sef cerddoriaeth, celf a hanes morwrol ei fro enedigol, meddai wrth Cymru Fyw.

Beth ydy asgerfio neu grefft 'scrimshaw'?

Steil Americanaidd ydi o o'r whaling ships - crefft y morfilwyr ydy scrimshaw. Roedden nhw'n cerfio lluniau neu'n sgwennu storis ar ddannedd neu esgyrn morfil. Mae'r Americanwyr yn dweud mai eu crefft nhw ydy hi, ond mae cerfio mewn i asgwrn yn lot hŷn na hynny - roedd y Celtiaid a'r Inuits yn gwneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn yn cerfio'n bennaf ar esgyrn ar gyfer gwerthu ond mae ganddo ambell ddarn ar ddant morfil yn ei gasgliad personol hefyd

Mae'n grefft sy'n marw allan - does 'na neb arall ym Mhrydain yn gwneud hyn o be dwi'n ddeall. Mae 'na gymuned eitha' iach wrthi yn America ac yn Rwsia. Esgyrn a dannedd morfil oedd yn cael eu defnyddio yn wreiddiol, ond maen nhw'n brin iawn wrth gwrs. Ond dwi'n licio'r syniad o ypseiclo esgyrn, neu ypseiclo hen biano sy'n mynd i'r sgip. Mi fyddai'n tynnu'r allweddi oddi arni ac mi fydd y coed yn mynd i'r lle tân a'r allweddau yn mynd i wneud gwaith celf.

Dwi'n gwneud y scrimshaw efo nodwydd siarp - crafu mewn i'r asgwrn ac yna rhwbio inc i mewn i'r crafiad.

Rhaid ichdi feddwl be oedd gan y morwyr wrth law ar y pryd - cyllell boced siarp neu nodwydd i drwsio hwyliau a dyna roedden nhw'n ddefnyddio.

Oes 'na unrhyw gysylltiadau Cymreig i'r grefft?

Doedd yna ddim llawer o gysylltiadau morfilo yng Nghymru ond yng Nghaergybi a Nefyn, yn enwedig yn ystod dirwasgiad y 30au, roedd 'na bobl yn mynd allan i hela morfil.

Roedd 'na lot o hogiau Holyhead, Amlwch a Llannerchymedd yn cael eu recriwtio i fynd ar y factory ships enfawr yn Norwy. Yn yr amgueddfa fôr yng Nghaergybi mae 'na un rhan ar y stori honno - mae 'na ddannedd morfil ac artefacts oddi ar y llongau.

Ffynhonnell y llun, Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn wedi dechrau gwneud casgliad o'i waith ar bapur ac mae'n gobeithio eu gwerthu fel printiadau cyn hir

Mae yna enghreifftiau hefyd yn amgueddfa Milford Haven, a gafodd ei adeiladu yn bwrpasol i fod yn harbwr morfilo ar ôl y rhyfel cartref yn America.

Mi ddaru brawd hen, hen daid imi hwylio o Fangor yn yr 1800s i fynd i Massachusetts. Morwr oedd o, ac er nad ydan ni'n gwybod pam oedd o yno, i New Bedford aeth o, sef lle cafodd Moby Dick ei sgrifennu - fanno oedd y brif harbwr morfila. Doedd 'na ddim byd arall yn New Bedford i ddenu rywun i weithio heblaw am forfilod bryd hynny, felly faswn i ddim yn synnu os mai dyna pam aeth o.

Sut wnest ti gychwyn?

Nes i ddarllen amdano fo gynta' a magu mwy o ddiddordeb. Yn digwydd bod ar y pryd, oni wedi symud nôl i Port am chwe mis tra'n disgwyl i symud i dŷ yn Bethesda. Ro'n i wedi tyfu fyny 'chydig ac yn edrych ar y lle ychydig yn wahanol - ti'n cymryd lot mwy o ddiddordeb yn hanes y lle. Mae 'na tua 300 o longau wedi eu hadeiladu yn Port ei hun felly nes i ddechrau cerfio'r llongau yna ar ddarn o asgwrn.

Ydy'r môr a hanes morwrol Porthmadog yn ddylanwad cryf arnat ti?

Ydy. Mae crefft y morwr yn gyfarwydd i lot ohonan ni ym Mhorthmadog. Os oeddat ti'n mynd i gartref hen berson yn Porthmadog pan oni'n blentyn, roedd fel amgueddfa; roedd gynnyn nhw longau mewn poteli, lluniau o Patagonia, pethau roedd morwyr wedi dod nôl efo nhw fel anrhegion i'w teulu neu wedi eu creu tra roedden nhw ar y llong, mae hwnna wedi aros efo fi. A'r hyna' dwi'n mynd, mwya'n byd dwi'n fascinated efo fo.

Ffynhonnell y llun, Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn wedi dylunio logo Clwb Bocsio Porthmadog gyda llong leol yr Evelyn ynghanol maneg bocsio - 'y llong bwdin' oedd yr enw lleol arni am fod y bwyd mor dda arni

Mae'r llong yn nodweddiadol o Port - mae yn bob man ti'n sbïo; y pybs - Pen Cei, y Ship Inn, Ship and Castle, Australia, maen nhw i gyd efo cysylltiadau morwrol.

Wyt ti wastad wedi gwneud gwaith celf?

Fel plentyn dyna sut roedd Mam a Nain yn cau ngheg i ers talwm - rhoi papur a beiro i fi ac oni'n hapus braf yn neud llun. Mi wnes i wneud o i GCSE a nes i ddim byd wedyn - dwi ddim wedi codi pensel tan i fi ddechrau asgerfio bedair blynedd yn ôl.

Mae scrimshaw gwreiddiol Fictorianaidd yn eitha' naïf a dwi'n meddwl mai'r rheswm mae ngwaith i'n gweithio ydy am mod i heb dynnu llun ers pan oni'n 15 oed - ella bod fy steil i'n dal bach yn naïf ac felly'n siwtio'r steil yna.

Ffynhonnell y llun, Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

'Asgerfio' yw'r term Cymraeg mae Carwyn wedi ei fathu am 'scrimshaw' ar ôl gofyn am awgrymiadau ar Twitter

Dim artistiaid oedd y morwyr - roedd lot ohonyn nhw methu sgwennu felly roedden nhw'n dogfennu digwyddiadau ar yr esgyrn a'r dannedd yma a wedyn yn eu gwerthu nhw, fel arfer i dalu dyled nôl i'r llong.

Wyt ti'n dal yn 'Hogan Ddroog'?!

Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones, ar y chwith, gyda'r Genod Droog yn eu hanterth yn un o Nosweithiau Gwobrwyo RAP Radio Cymru

Dwi ddim yn Hogan Ddroog ella' - ges i frêc o ryw bum neu chwe mlynedd o'r miwsig ond dwi di dechrau nôl ers ryw hanner blwyddyn yn creu stwff electronig fel Kim De Bills a dwi wrth fy modd - dwi'n cael yr un mwynhad allan o wneud hynny ag ydw i allan o'r asgerfio.

Wyt ti'n rhywun sydd angen mynegi dy hun mewn rhyw ffordd artistig?

Mae rhaid ifi gael o - mae o fel therapi - gofynna di i unrhyw gerddor neu artist a dwi'n siŵr y byddan nhw i gyd yn cytuno - mae'n rhaid ichdi ei wneud o. Nes i ddim sylweddoli faint oni wedi methu'r miwsig a deud y gwir. Dwi'n teimlo'n lot hapusach efo fi fy hun ers dechrau potsian yn ôl.

Y tro diwetha welson ni ti oedd fel y Dyn Gwyllt ar y teledu. Wyt ti'n licio cael project newydd i dy gadw i fynd?

Ydw ond dwi'n ffeindio fy hun yn mynd nôl at yr hen bethau oni'n licio'u gwneud - dwi 'di mynd nôl at y celf a'r gerddoriaeth. Pwy a ŵyr ella pan fyddai'n 70 fyddai'n mynd nôl at y Dyn Gwyllt ac yn campio yn y coed! Ond go brin - dwi'n meddwl mai phase oedd hwnna! Ac oni isho cegin newydd hefyd ac angen y pres!

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Efallai y gwelwn ni Carwyn yn byw yn wyllt eto - ond dim nes y bydd tua 70 oed efallai!

Hefyd o ddiddordeb: