Henry y ci sy'n paragleidio

  • Cyhoeddwyd
Amy a HenryFfynhonnell y llun, Amy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Amy a Henry

Ai Henry'r cockapoo yw ci mwya' mentrus Cymru?

Digon posib gan fod y ci pedair oed yn mwynhau paragleidio a phadlfyrddio yn ei amser hamdden, gan edmygu golygfeydd Cymru a'r Alpau o'r awyr a'r dŵr ers iddo fod yn gi bach.

Ac mae'n bosib fod doniau y ci o Dywyn yn mynd i gael eu cydnabod wythnos nesaf gyda gwobr arbennig, mewn seremoni Amplifon Awards for Brave Britons 2019 am fod yn anifail anwes arwrol.

Perthynas arbennig

Paragleidio yw hobi perchennog Henry, Amy Jones, hefyd ac mae ganddi berthynas arbennig gyda'r ci sy' wedi bod gyda hi ers yn gi bach: "Mae Henry fel fy mhlentyn cyntaf. Mae'n gwneud popeth gyda ni - mae'n dod i baragleidio a phadlfyrddio gyda ni ac hefyd yn reidio mewn trelar y tu ôl i'r beic. Mae wrth ei fodd â'r gwynt yn ei glustiau.

"Mae'n mwynhau ei fywyd. Cyn gynted ag y byddwch chi allan mae eisiau mynd a mynd."

Ffynhonnell y llun, Amy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Uchafbwynt i Henry: Paragleidio gyda Amy

Mae Henry yn cynhyrfu pryd bynnag mae Amy'n estyn ei harnais paragleidio arbennig: "'Oedd Henry'n wyth mis oed yn paragleidio am y tro cyntaf. Rhoddais i'r harnais arno er mwyn iddo gael y teimlad ohono. Roedd yn hedfan mewn tandem gyda fi a Dad felly o'n i yno i'w gysuro pe bai angen.

"Ond roedd wrth ei fodd yn syth a welodd o ddau berson yn chwarae tenis o'r awyr. Cyn gynted ag y glaniom ni fe redodd tuag at y bobl hyn i ddwyn eu pêl tenis - a dal i redeg!

"Roedd mor gyffrous. Mae'n mynd yn wallgo'."

Disgrifiad,

Henry'r ci yn paragleidio gyda tad Amy, Rob Jones

Mae Henry hefyd wrth ei fodd yn padlfyrddio: "Fel arfer mae'n eistedd ar y bwrdd ac yn mwynhau edrych o'i gwmpas. Ond unwaith, tra'n croesi o Aberdyfi i Ynyslas, roedd y pysgod yn neidio a Henry yn ceisio cyrraedd atynt, oedd yn eithaf brawychus."

Ffynhonnell y llun, Amy Jones

Paratoi am y gwobrau

Mae Henry yn un o'r gwestai arbennig yn seremoni'r Amplifon Awards for Brave Britons 2019 sy'n digwydd yn Llundain ar 15 o Hydref felly bydd angen ychydig o waith twtio arno, sy'n broblem yn ôl Amy: "Yr unig beth sy'n codi ofn ar Henry yw'r dog groomer.

"O'n i'n dweud wrthi fod Henry ar y rhestr fer i fod yn anifail anwes arwrol ac 'oedd hi'n chwerthin am fod cymaint o olwg arno. Mae'r groomer yn codi ofn mawr arno."

Ffynhonnell y llun, Amy Jones

Mae Amy'n falch iawn o'i chi arbennig: "Mae'n anhygoel fod o wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae mor ddoniol.

"Mae Henry yn cheeky iawn ac yn gwybod sut i gael yr hyn y mae ei eisiau. Mae o mor hyfryd a bydd yn eistedd ac yn rhoi ei gorff cyfan arnoch chi am gwtsh mawr. Pan mae allan mae eisiau bod yn gwneud pethau trwy'r amser.

Ffynhonnell y llun, Amy Jones

"Mae'n hoffi cysgu hefyd. Rydyn ni'n mynd i fyny Cader Idris ac wedyn bydd yn cael 20 munud o gwsg ac yna bydd yn barod i fynd eto.

"Mae'n ddoniol pan ni'n hedfan, mae pobl yn syllu tra'n gweld ni'n glanio: "Ci yw e!".

"Mae o jest yn wych."

Ffynhonnell y llun, Amy Jones

Hefyd o ddiddordeb