Timau'n chwilio am fenyw ar goll yn canfod corff yn afon Taf

  • Cyhoeddwyd
Clwb Rygbi NelsonFfynhonnell y llun, Nelson RFC/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Clwb Rygbi Nelson gyhoeddi'r llun yma o Brooke Morris ar Facebook

Mae timau sy'n chwilio am fenyw sydd ar goll wedi darganfod corff mewn afon ddydd Mercher.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod wedi darganfod corff menyw yn afon Taf ger Trelewis.

Mae swyddogion wedi bod yn chwilio yn afonydd yr ardal fel rhan o'u hymchwiliad i ddiflaniad Brooke Morris, 22 oed.

Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu Ms Morris yn ymwybodol o'r datblygiad ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth gwirfoddolwyr ymgynull yng Nghlwb Rygbi Treharris cyn dechrau chwilio

Nid yw Ms Morris wedi cael ei gweld ers oriau mân fore Sadwrn ar ôl noson allan yng nghanol Merthyr Tudful.

Dros y dyddiau diwethaf mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi bod yn chwilio am Ms Morris, gan gynnwys aelodau o Glwb Rygbi Treharris.

Cafodd ei gweld am y tro diwethaf y tu allan i'w chartref yn Bontnewydd Terrace, Trelewis.

Dyw'r heddlu ddim yn credu ei bod wedi mynd i mewn i'w chartref pan gafodd ei gollwng yno wedi'r noson allan.