Meic Stevens: Person 'gwahanol iawn' ers cael canser

  • Cyhoeddwyd
Meic StevensFfynhonnell y llun, Cwmni Da/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y canwr yn ei gartref yng Nghaerdydd, lle bu'r camerâu yn ffilmio Meic Stevens: Dim Ond Cysgodion

Fe wnaeth canser y gwddf adael ei ôl ar Meic Stevens tu hwnt i'w lais gan newid ei bersonoliaeth, yn ôl y canwr ac un o'i blant.

Mae "tywyllwch" wedi aros gydag ef, meddai ei ferch, a dywed yr artist ei hun ei fod yn teimlo'n berson gwahanol i'r dyn roedd yn arfer bod.

Saith mlynedd yn ôl fe gafodd Meic Stevens wybod bod ganddo ganser y gwddf ac wedi'r driniaeth fe gollodd ei lais am gyfnod. Ond roedd yna effaith hir dymor hefyd oedd efallai yn llai amlwg.

'Dwi ddim yn nabod e'

"Dwi ddim yn teimlo fel yr un person nawr. Dwi ddim yn nabod e," meddai'r artist.

"Ro'n i'n 'nabod fy hunan blynyddoedd yn ôl ond dwi ddim yn adnabod y person dwi nawr, dwi jest ddim yn nabod e.

"Dwi heb fod wedi byw gydag e ers amser hir eniwe. Dim ond saith blwydd oed yw e."

Mae'r canwr yn siarad ar raglen S4C Meic Stevens: Dim Ond Cysgodion sy'n olrhain hanes bywyd y gŵr o Solfach.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhaglen yn dilyn yr artist yn ôl i ardal Solfach

Yn y rhaglen, sydd hefyd yn rhoi blas ar fywyd yr artist heddiw, mae ei ferch yn dweud ei bod hithau wedi gweld newid ynddo ers ei salwch.

'Tywyllwch' wedi aros

"Mae'n ddyn gwahanol iawn, iawn i'r dyn oedd o cyn triniaeth am ganser ffyrnig iawn," meddai Wizzy Stevens.

"Wnaethan nhw ei drin yn ffyrnig iawn hefyd... wnaeth o gnocio fo allan. Mae'n flinedig rŵan, blinedig iawn.

"Tydi o ddim efo'r un hiwmor, does ganddo ddim yr un fath o agwedd ysgafngalon.

"Mae yna dipyn o dywyllwch - ond dwi'n meddwl bod y tywyllwch wedi aros."

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meic Stevens wedi bod yn un o ffigurau amlycaf canu Cymraeg ers degawdau

Gyda thriniaeth o'r fath roedd effaith corfforol hefyd, ac un sgîl-effaith gyda oblygiadau pell-gyrhaeddol i un o ffigurau amlycaf y byd roc a phop yng Nghymru.

Colli llais a salwch 'boring'

Meddai: "Pan wedodd nhw bod fi mynd i ddod trwyddo fo, wel, roedd rhaid i fi ailddysgu canu achos roedd y driniaeth wedi 'neud niwed i fy ngwddwg i ac o'n i ddim yn gallu siarad.

"Baswn i'n licio cael fy nannedd yn ôl, roedd 'da fi gwendid yn fy ngheg roedd rhaid tynnu fo allan rhag ofn bydda'n ymestyn ac achosi septicemia.

"So gorffod nhw tynnu nhw i gyd allan. Dwi ddim yn meddwl lot amdano fe. Dwi ddim yn meddwl lot am fy hun - dwi jest yma a jest cario mlaen chi'n gwybod.

"Mae e'n hollol boring i fod yn sâl, dio ddim yn hala ofan arna fi. Mae ofn hefyd yn boring i fi. Mae ofn yn hollol negyddol."

Bydd Meic Stevens: Dim Ond Cysgodion, sy'n cael ei darlledu nos Sadwrn, Hydref 19, am 2100, hefyd yn cael ymateb y canwr i honiadau diweddar iddo wneud sylwadau hiliol yn ystod ei berfformiad yng Ngŵyl Arall, Caernarfon, yn gynharach eleni.

Dywed yr artist, sy'n gwadu'r honiadau, nad oedd wedi ymddiheuro gan nad oedd wedi gwneud unrhywbeth o'i le.

Hefyd o ddiddordeb: