Ail -greu terfysg 150 mlynedd yn ôl ar strydoedd Yr Wyddgrug

  • Cyhoeddwyd
Cast
Disgrifiad o’r llun,

Y cast yn paratoi i ymarfer golygfa yng nghynhyrchiad 'Mold Riots'

Bydd cwmni theatr yn perfformio ar strydoedd yr Wyddgrug i ail-greu terfysg yn y dref 150 o flynyddoedd yn ôl.

Bu farw pedwar person yng nghanol terfysg a ddechreuodd ar ôl i berchennog pwll glo, yn ardal Coed-llai gyflogi glowyr o Loegr er mwyn torri cyflogau glowyr lleol.

Bydd cynhyrchiad Theatr Clwyd, 'Mold Riots', yn digwydd ar sawl stryd yn y dref gyda chyfraniad gan gast cymunedol.

Mae'r perfformiad yn dechrau ddydd Llun a dywedodd yr awdur Bethan Marlow ei bod wedi bod yn "siwrne ddifyr" sydd wedi cymryd rhai blynyddoedd i'w chwblhau.

Triniaeth o'r Gymraeg

"Fe ddechreuodd gyda thrip i'r archifau i ddarllen llyfrau ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd," meddai.

"Ar ôl dechrau darllen amdano mae nifer o themâu yn atseinio i mi heddiw.

"Mae sôn ynglŷn â sut mae'r iaith Gymraeg yn cael ei thrin, sôn am fewnfudo, y dosbarth gweithiol a sut maen nhw'n cael eu trin a'u tawelu, ac mae hynny'n gyffredin i'r Wyddgrug heddiw.

"Bydd rhai themâu yn taro deuddeg gyda'r hyn sy'n digwydd mewn bywyd heddiw," meddai.

Disgrifiad,

Mae Ann Richards yn un o'r cymeriadau lleol sy'n cymryd rhan yn y ddrama

Ychwanegodd Ms Marlow ei bod wedi gweithio ar gynyrchiadau ar leoliad o'r blaen.

"Mae wastad yn heriol, yn enwedig ym mis Hydref pan nad ydyn yn gwybod beth fydd y tywydd."

Bydd y perfformiad yn gwahodd cynulleidfa i ddilyn y cynhyrchiad ar draws pum safle gwahanol.

Mae'r stori yna adlewyrchu'r terfysg a ddigwyddodd yn haf 1869 ar ôl i lowyr fynd o flaen eu gwell ar ôl ymosod ar ei rheolwr yn dilyn gostyngiad yn eu cyflog.

'Ffurfio perthnasoedd'

Mae cast y gymuned yn cynnwys 100 aelod sy'n cynnwys 30 o blant rhwng saith - 16 oed. Mae'r aelod hynaf o'r cast yn 87.

Dywedodd aelod o'r cast proffesiynol Amy Forrest fod "pawb yn y cast cymunedol wedi bod yn wych."

Dywedodd Sam Wise sy'n actio fel rhan o'r cast cymunedol ei bod hi'n "hyfryd gweld maint y cynhyrchiad a niferoedd y cast."

"Mae cymaint o bobl o wahanol gefndiroedd, cymaint o oedrannau gwahanol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r olygfa ar strydoedd yr Wyddgrug yn yr haf 1869