Ymchwil alcohol: Annhebygol i yfwyr droi at sylweddau

  • Cyhoeddwyd
Yfwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweinidogion eisiau i adwerthwyr godi o leiaf 50c yr uned - sy'n golygu y byddai can o seidr yn costio o leiaf £1 a photel o win yn £4.69 ar ôl ar 2 Mawrth 2020

Mae ymchwil yn dangos ei bod hi'n annhebygol i bobl droi at sylweddau eraill pan fydd isafswm pris yn cael ei osod ar alcohol.

Mae'r adroddiad yn edrych ar y tebygolrwydd o bobl yn troi at gyffuriau eraill yn sgil cynlluniau i osod isafswm pris o 50c yr uned ar alcohol ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae gweinidogion eisiau i adwerthwyr godi o leiaf 50c yr uned - sy'n golygu y byddai can o seidr yn costio o leiaf £1 a photel o win yn £4.69 ar ôl ar 2 Mawrth 2020.

Fe gafodd y gwaith ymchwil ei gyflawni gan arbenigwyr o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam a chwmni ymgynghori Figure 8 yn Dundee yn dilyn comisiwn gan Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal, roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar:

  • Yr effaith posib ar unigolion;

  • Eu dealltwriaeth o'r cynllun;

  • Sut byddai'r cynnydd mewn pris yn effeithio arnyn nhw;

  • Pa sylweddau eraill maen nhw yn eu defnyddio;

  • Ydyn nhw'n debygol o droi at sylweddau eraill yn sgil y cynnydd mewn pris;

  • Pa gefnogaeth maen nhw ei hangen?

"Ar gyfer y rhan fwyaf o yfwyr, yr unig newid tebygol yw thuag at alcohol a newid yn eu hymddygiad yn sgil y cynnydd mewn pris, er enghraifft newid yn y math o alcohol neu newid yn y ffordd maen nhw'n prynu alcohol," meddai'r adroddiad.

Ychwanegodd: "Ar gyfer y rhan fwyaf o yfwyr, alcohol yw'r cyffur maen nhw yn ei ddewis fwyaf, ac nad oedd symud at gyffuriau - yn enwedig tuag at ymddwyn yn anghyfreithlon - yn opsiwn iddyn nhw.

"Roedd awgrym bod symud rhwng sylweddau yn fwy tebygol o ddigwydd rhwng grwpiau penodol, yfwyr stryd yn bennaf a rhai gyda phrofiad blaenorol o ddefnyddio cyffuriau."

Disgrifiad o’r llun,

Nod gosod yr isafswm yw helpu lleihau marwolaethau o ganlyniad i alcohol yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething

Yn yr adroddiad hefyd roedd pwyslais ar yr angen i gyhoeddi'r cynlluniau er mwyn iddyn nhw gael eu deall gan y rhai fydd yn cael eu heffeithio fwyaf.

"Mae'n bwysig fod pobl yn ymwybodol fod y newid pris yn digwydd yn fuan er mwyn iddyn nhw gael paratoi amdano," meddai'r adroddiad.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r gwaith ymchwil yma'n ddefnyddiol iawn i ddeall yr effaith y gallai gosod isafswm ei gael.

"Nod gosod yr isafswm yw i helpu lleihau marwolaethau o ganlyniad i alcohol ac mae'r adroddiad yma'n dangos fod pobl yn annhebygol o droi at sylweddau eraill o ganlyniad.

"Rydym eisoes yn gweithio gyda darparwyr i sicrhau fod gwybodaeth ynglŷn â'r polisi ar gael a bod y gwasanaethau priodol yn eu lle," meddai.