Colofn Ken: "Croeswch eich bysedd, croeswch bopeth..."

  • Cyhoeddwyd
ken

Yn ei golofn wythnosol mae bachwr Cymru Ken Owens yn edrych ymlaen at y gêm fawr yn erbyn De Affrica ac yn edrych yn ôl ar y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc:

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill /Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ross Moriarty yn croesi'r linell i sicrhau cais yn y gêm yn erbyn Ffrainc

Dydd Sul dwetha' - wel ble mae dechrau? O'n i wastad yn hyderus - hyd yn oed cyn y cerdyn coch. 'O'n i'n gwbod y bydde cyfle yn dod i sgorio a grêt bod Ross wedi cael y cais 'na reit ar y diwedd.

Da'th e o'r scrum ar ôl gwaith da gan Dillon a Rhys Carré ac o'n i'n gwbod hefyd y bydde Dan yn rhoi'r gic drosto. Ond i fod yn deg, 'odd chwe munud yn dal i fod ar ôl ar y cloc a wnaeth Camille Lopez fynd am gwpwl o giciau adlam, a ma' fe 'di cael cwpwl ohonyn nhw yn ystod y chwe gwlad!

Felly o'n i'n gwbod os nad o'n i'n cario 'mlaen i chwarae y gallen nhw gipio'r fuddugoliaeth.

Clod i Ffrainc

Ffynhonnell y llun, David Rogers / Getty Images

Pob clod i Ffrainc. Dyna'r gore fi'n meddwl fi 'di gweld nhw'n chwarae - nid yn unig yn y bencampwriaeth 'ma, ond dros y ddwy flynedd ddwetha'.

Ar ddiwedd y dydd ni 'di ennill gêm yn chwarteri Cwpan y Byd. Odd y cymeriad gyda ni i gario mlaen am 80 munud. Ie, mae pawb yn gwbod pa mor lwcus o'n ni a pha mor dda oedd Ffrainc. Ond shwt allai weud? - "We've used our get out of jail card!"

Ma' just rhaid i ni fod lot gwell dydd Sul - fi'n siŵr byddwn ni.

Dathlu!

Mae angen dathlu pob un buddugoliaeth s'dim ots pa mor agos ma' nhw, a gaethon ni cwpwl o beints yn y gwesty ar ôl y gêm.

Odd hi'n grêt pan gyrhaeddon ni 'na - ma' lot o'r teuluoedd mas 'ma erbyn hyn a daethon nhw yn syth nôl i'r gwesty i groesawu ni nôl. O'dd Dad yn un ohonyn nhw, sy'n grêt. O'dd rhai pobl o Ffrainc 'na hefyd, ond o'n nhw ychydig yn fwy siomedig!

Fi 'di dod off social media yn ystod y gystadleuaeth - ond fi'n dal i gael negeseon gan bobl gatre - pobl yn y clwb rygbi, ysgolion ac ati. Ni'n gwbod am y gefnogaeth sy' mas 'na.

Mae'r gefnogaeth yn 'sbesial'

Un peth ni'n 'neud yn dda iawn yng Nghymru yw cefnogi rygbi! Y bobl sy' mas 'ma a'r bobl gatre sy' methu dod mas.

Ni'n gwybod bod pobl yn gwario miloedd ar ddod mas 'ma w'thnos hyn - ma' hwnna'n sbesial! Fydd hi'n clean off pan fydd pawb 'ma! Ddigwyddodd rhwbeth tebyg cyn trydydd prawf y Llewod.

Fi'n nabod pobl sy' 'di bod i'r banc i gymryd loans mas i 'neud yn siŵr bo nhw'n gallu dod mas 'ma a fi 'di cael lot o bobl yn gofyn am docynnau hefyd!

Ffynhonnell y llun, GABRIEL BOUYS / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Biggar a Owen Watkin yn dathlu'r fuddugoliaeth

Tensiwn a nerfau

Ma' wythnos hyn yn teimlo bach yn wahanol. Mae 'na densiwn a nerfau o gwmpas y lle ond dyma'r math o wythnos lle ni angen cadw ein ffocws ni. Mae hi'n gêm enfawr yn erbyn De Affrica.

Fi 'di bod o gwmpas am flynyddoedd nawr ond ma' angen i ni just ganolbwyntio ar be' ni'n gallu rheoli a chadw mla'n i 'neud be' ni'n dda am 'neud.

Ma' pawb yn gwbod beth yw eu swydd nhw o fewn y tîm a dyna pam bo' ni wedi bod yn llwyddiannus.

'Diolch am y gefnogaeth'

Cyn i fi fynd beth allai weud wrtho chi sy'n bach o exclusive' te? Wel, ni 'di cael electronic dart board! Pan o'n ni yn Beppu cyn gêm Fiji - yn yr hotel, o'dd 'na electronic dart board 'da ni, felly ni 'di heiro un mewn ar gyfer y pythefnos ola'.

James Davies a Bradley Davies sy' 'di bod arno fe fwya'. Mae'n rhwbeth sy'n rhoi bach o hwyl a sbri i ni gyda'r nos.

Ma' Rhys Patchell ar fin cael ei ffeino hefyd! Ma' fe 'di bod yn eitha' tawel gyda'r practice côr - ni wedi bod yn canu, ond o'n i'n meddwl bydde mwy o ymarfer 'di bod erbyn hyn! It wouldn't have happened on my watch!!!

Unwaith eto fi a gweddill y bois just mo'yn diolch i chi gyd am y gefnogaeth. Mae'n meddwl lot.

Croesi bysedd erbyn colofn wythnos nesa' byddai'n sôn am Gymru yn creu hanes, ac wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd!

Croeswch bopeth.

Ken

Hefyd o ddiddordeb: