Llyfr y Flwyddyn: Categori newydd Plant a Phobl Ifanc

  • Cyhoeddwyd
Llyfry FlwyddynFfynhonnell y llun, Sioned Birchall

Mae categori newydd Plant a Phobl Ifanc wedi cael ei ychwanegu at wobr Llyfr y Flwyddyn 2020.

Mae'r categori newydd yn gwobrwyo llyfrau sydd wedi eu hysgrifennu i blant a phobl ifanc am y tro cyntaf ers i'r wobr ddechrau yn 2004.

Bydd llyfrau ar gyfer plant hyd at 16 oed yn cael eu hystyried o fewn y categori.

Bydd y categori newydd yn ymuno â thri chategori sy'n bodoli eisoes ar wahân: Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol Greadigol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Categori yn 'hynod bwysig'

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno yn Aberystwyth ar 25 Mehefin 2020.

Bydd un o'r pedwar enillydd categori yn cael eu henwi'n Brif Enillydd Llyfr y Flwyddyn yn y seremoni yn Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Enillodd Manon Steffan Ros y wobr yn 2019 am ei nofel Llyfr Glas Nebo.

Disgrifiad o’r llun,

Manon Steffan Ros, enilydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae'n hynod bwysig rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn llenyddiaeth, i uniaethu a chwympo mewn cariad â geiriau."

Ychwanegodd: "Drwy ymgynghori â'r sector, a'n partneriaid wrth ddatblygu'r cynllun strategol newydd, daeth yn amlwg bod awydd cryf i weld ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael ei gynrychioli ar lwyfan llenyddol mwyaf Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd seremoni wobrwyo 2020 yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth: "Rydym yn falch iawn y bydd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau am yr ail flwyddyn yn olynol.

"Edrychwn ymlaen at ddathlu'r gorau o lenyddiaeth Gymreig yn Aberystwyth, cartref answyddogol llenyddiaeth yng Nghymru."

Bydd enwau'r beirniaid yn cael eu rhyddhau ym mis Mawrth 2020, a bydd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi ar 12 Mai 2020.