Galw am ymgyrch gyhoeddus i fynd i'r afael â stigma HIV
- Cyhoeddwyd
Mae angen ymgyrch iechyd cyhoeddus newydd i fynd i'r afael â stigma HIV, yn ôl y Gymdeithas HIV Plant.
Mae rhaglen BBC Wales Live wedi siarad â dwy ferch sydd wedi bod â'r cyflwr ers cael eu geni, sy'n dweud eu bod wedi dysgu gwybodaeth anghywir amdano yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r gymdeithas eisiau sicrhau bod athrawon, doctoriaid, nyrsys a phlant ysgol yn derbyn y wybodaeth gywir i amddiffyn plant sy'n byw â'r cyflwr.
Does dim ymgyrch wedi bod gan y llywodraeth i addysgu pobl am HIV ers yr 80au.
Mae tua 20 o blant o dan 18 oed yn byw â HIV yng Nghymru.
Cafodd cyffuriau eu cyflwyno yn 1996, ac os ydyn nhw'n cael eu cymryd yn ddyddiol does dim modd trosglwyddo'r haint.
Ond dywedodd y ddwy ferch ysgol wrth Wales Live bod gwybodaeth anghywir, fel bod cyffwrdd neu hyd yn oed rhannu dilledyn â pherson sydd â HIV, yn gallu trosglwyddo'r cyflwr.
'Beichio crio'
Dywedodd ei bod wedi cael gwers ble cafodd gwybodaeth anghywir ei ddysgu a bod jôcs am bobl â HIV heb gael eu herio gan yr athro.
"Roeddwn i'n eistedd yng nghefn y dosbarth yn beichio crio," meddai'r ferch.
"Ond roedd rhaid i mi ei guddio achos roedd y rhain yn bobl roeddwn i'n ystyried dweud wrthynt am fy nghyflwr.
"Pe bai llai o stigma, fe fyddwn i 100% yn siarad gyda fy holl ffrindiau am y peth, a byddai'r trafodaethau hynny'n llawr haws pe bai'n cael ei ddysgu'n gywir mewn ysgolion."
Dywedodd Dr Jennifer Evans, arbenigwr ar drin plant sydd â HIV, nad yw profiadau'r merched yn ei synnu.
"Os ydy pobl yn cael diagnosis o ganser mae 'na lawer iawn o gydymdeimlad, ond mae pobl yn dal yn amheus iawn am y diagnosis yma [HIV]," meddai.
"Mae hynny'n trosglwyddo i deimlo'n ddrwg am eich hun."
'Pobl dan gamargraff'
Dywedodd Abi Carter o'r Gymdeithas HIV Plant bod diffyg gwybodaeth ac addysg am y cyflwr yn effeithio ar hyder plant sy'n byw â HIV.
"Mae angen ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus am HIV sydd wedi'i ddiweddaru gyda'r holl ddatblygiadau sydd wedi digwydd mewn meddyginiaeth dros yr 20 i 30 mlynedd ddiwethaf," meddai.
"Mae hi mor bwysig fod gan wahanol agweddau o fywyd cyhoeddus - yr heddlu, GIG, athrawon - â dealltwriaeth o HIV.
"Mae'r mwyafrif o'r wybodaeth gyhoeddus yn cael ei greu gan wirfoddolwyr.
"Dydy hynny ddim yn dod gan y llywodraeth neu'r GIG, felly mae 'na lawer o bobl dan gamargraff."
Wales Live, BBC One Wales am 22:30 nos Fercher, 30 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019
- Cyhoeddwyd15 Medi 2019
- Cyhoeddwyd7 Medi 2018