Rhybudd i brynwyr wedi canfyddiad penglogau crocodeil

  • Cyhoeddwyd
Penglog crocodeilFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r penglogau a gafodd eu darganfod yn y cyrchoedd ym Machynlleth

Mae yna rybudd i bobl sy'n prynu darnau anifail "swfenîr" sicrhau bod yr eitemau'n gyfreithiol wedi i'r heddlu ddod i hyd i nifer o benglogau crocodeil o China ym Machynlleth.

Mae ditectifs yn ymchwilio i'r eitemau ar ôl cael gwarant i archwilio dau eiddo yn y dref ddydd Mercher.

Roedd y cyrchoedd yn rhan o ymchwiliad gan swyddogion troseddau cefn gwlad heddluoedd Dyfed-Powys a Gogledd Cymru ar y cyd â'r Uned Trosedd Bywyd Gwyllt Cenedlaethol.

Mae'r ymchwiliad hwnnw'n parhau, ac mae'r dystiolaeth yn cael ei hystyried cyn penderfynu ar y camau nesaf.

Dywedodd grŵp sy'n ymgyrchu i atal y farchnad anifeiliaid a phlanhigion gwyllt rhag amharu ar gamau cadwraethol bod angen i fewnforwyr a phrynwyr sicrhau bod eitemau â'r trwyddedau priodol.

"Os edrychwch ar eBay fe welwch chi ddigon o benglogau crocodeil ar werth yn y DU," meddai Richard Thomas o'r grŵp Traffic.

"Mae pobl yn eu prynu fel rhyw fath o destun siarad, i'w harddangos ar y silff ben tân."

Mae yna waharddiad llwyr ar fasnachu rhai rhywogaethau, gan gynnwys rhai mathau o grocodeil, ond mae modd prynu a gwerthu mathau eraill cyn belled â bod y wlad o le maen nhw'n tarddu'n rhoi trwyddedau i wneud hynny.

Dywed Mr Thomas mai cyfrifoldeb mewnforwyr neu brynwyr yw profi bod y wlad dan sylw wedi trwyddedu'r gwerthiant.