Beirniadu Radio Cymru am beidio darlledu o ddwy ŵyl
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad Radio Cymru i beidio â darlledu'n fyw o ddwy ŵyl wedi derbyn ymateb chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol.
Ni fydd yr orsaf yn darlledu o Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc na'r Ŵyl Cerdd Dant eleni, er eu bod wedi gwneud hynny yn y gorffennol.
Mae trefnwyr y digwyddiadau wedi beirniadu'r penderfyniad, gan ei alw'n "siomedig".
Yn ôl llefarydd ar ran BBC Cymru bydd yr orsaf yn darlledu rhaglenni uchafbwyntiau.
Dywedodd Lowri Jones o wefan cymunedol newydd Bro360, dolen allanol y byddai colli darllediad byw o Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn "siom fawr i lot o bobl - o'dd hi'n raglen dda".
"Fi'n 'nabod lot o bobl sydd yn dilyn eu clybiau ar lefel sirol sydd wir ddim yn gallu trafeilu i Steddfod Cymru i ddilyn eu clybiau," meddai.
"Maen nhw'n dibynnu ar y gwasanaeth byw sydd wedi bod i gael dilyn hynt a helynt eu clybiau lleol."
Er y siom mae Ms Jones yn dweud ei fod yn "berygl dibynnu ar gyfryngau canolog fel y BBC i ddarparu rhywbeth ar ein cyfer ni".
Dywedodd bod hyn nawr yn gyfle i ddarparu darllediadau eu hunain ar y we, ac y bydd Bro360 yn cynnal blog byw o'r digwyddiad eleni.
'Siom a syndod'
Mae trefnydd yr Ŵyl Cerdd Dant, John Eifion Jones hefyd yn rhwystredig gyda'r penderfyniad i beidio darlledu'r ŵyl yn fyw ar yr orsaf.
"Mae'n destun siom ac yn bach o syndod hefyd, a thristwch na fyddan nhw'n darlledu'r Ŵyl Gerdd Dant yn fyw eleni," meddai.
"Hefyd mae'n destun pryder bod gŵyl genedlaethol sy'n dathlu ein diwylliannau cynhenid Cymreig ddim ar yr unig orsaf radio genedlaethol sydd gennym ni."
Dywedodd llefarydd ar ran Radio Cymru y bydd yr orsaf yn dal i adlewyrchu'r digwyddiadau mewn rhaglenni uchafbwyntiau.
Ychwanegwyd bod yr orsaf am barhau i gefnogi'r gwyliau hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2018