Plismona stryd ar Noson Tân Gwyllt wedi difrod y llynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd stryd a ddioddefodd nifer o ymosodiadau tân gwyllt ym mis Tachwedd y llynedd yn cael ei phlismona ar raddfa uwch eleni.
Wedi'r ymosodiadau ar Stryd Keene yng Nghasnewydd cafodd Heddlu Gwent nifer o alwadau gan drigolion a ddisgrifiodd yr ymddygiad "yn un maleisus."
Yn ôl un cynghorydd doedd e erioed wedi gweld ymddygiad cynddrwg.
Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar dywedodd arweinwyr cymuned bod yn rhaid atal gweithredoedd o'r fath eleni.
Dywedodd y cynghorydd Allan Morris: "Fe gawson gyfarfod cyhoeddus rai wythnosau yn ôl ac mae plismyn wedi addo y byddant yn cynyddu y nifer o swyddogion sy'n plismona'r ardal.
"Mae'r hyn a ddigwyddodd llynedd yn warth llwyr. Doedd e ddim yn hwyl ond yn hytrach malais a oedd wedi'i fwriadu i achosi ofn a dychryn."
'Lot o bobl wedi cael ofn'
Fe gafodd y digwyddiad ei ffilmio a'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl Mr Morris, sy'n gweithio fel swyddog tân, mae Stryd Keene yn ardal lle digwyddodd ymddygiad gwrth-gymdeithasol ond dywedodd: "Ry'n wedi gweld gwelliant yn ystod y misoedd diwethaf ond dyw pobl leol ddim am weld ymddygiad fel y llynedd eto.
"Roedd yna lot o bobl wedi dychryn o gwmpas y llynedd."
Ar ran Heddlu Gwent dywedodd yr Arolygydd Martin Crawley y byddai swyddogion yn plismona Stryd Keene eleni.
"Byddwn," meddai, "yn archwilio pobl er mwyn canfod a oes yn eu meddiant dân gwyllt, wyau ac eitemau eraill gyda'r bwriad i greu difrod troseddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2019
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2016