Cynlluniau i ddyblu ardaloedd gwyrdd Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae yna gynlluniau i ddyblu nifer yr ardaloedd gwyrdd yn ninas Abertawe dros y ddegawd nesaf.
Yn dilyn misoedd o ymgynghori gyda'r cyhoedd, mae Cyngor Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn paratoi i gyhoeddi strategaeth ar gyfer mwy o isadeiledd gwyrdd yn y ddinas.
Bwriad y cynllun yw rhoi hwb i fywyd gwyllt yn ogystal â lles pobl, wrth helpu i lanhau ansawdd aer, ac atal llifogydd.
Yn ôl Fran Rolfe, Swyddog Llefydd Cynaliadwy gyda CNC, mae'n "gyfle unigryw i adfywio ein dinas ar gyfer bywyd gwyllt a lles trigolion".
Mae'r cynllun yn ffordd wahanol o weithio o'i gymharu â'r parciau cenedlaethol traddodiadol, sydd ag awdurdodau i arwain eu gwaith ac yn gallu dylanwadu ar geisiadau cynllunio.
Dywedodd Ms Rolfe: "Fe wnaethon ni lot fawr o gyfathrebu gyda phobl yn y gymuned er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod beth oedden nhw am ei weld.
"Mae'n fandad gwych, sy'n anfon neges glir i'r farchnad a datblygwyr bod pobl eisiau gweld y math yma o beth."
Bydd Ms Rolfe yn gweithio gyda busnesau lleol a grwpiau cymunedol i gynghori ar eu hymdrechion.
Gall y cynlluniau gynnwys gerddi ar furiau adeiladu, rhandiroedd trefol, a mwy o goed.
Yn barod mae dwy o gymdeithasau tai'r ddinas wedi bod yn gweithio ar gynlluniau, gyda chwmni Coastal yn bwriadu troi to eu swyddfeydd yng nghanol y ddinas yn hafan i fywyd gwyllt.
Yn ôl Gareth Davies, un o'r rheolwyr, maen nhw'n ystyried plannu blodau, gosod ardaloedd i dyfu llysiau a ffrwythau a chyflwyno cychod gwenyn, gan ddweud taw "dyma'r peth iawn i'w wneud".
Ychwanegodd: "Pan mae'r llywodraeth yn datgan argyfwng yn yr hinsawdd mae'n rhaid i ni gymryd hynny o ddifri' - gallwn ni ddim dim ond siarad am y peth, mae angen symud ymlaen a gweithredu ac mae hyn yn rhan o hynny."
Dywedodd Claire Tristham, cyfarwyddwr datblygu cymdeithas dai Pobl, sef y darparwr fwyaf o dai fforddiadwy yng Nghymru, byddai'n gosod mwy o wyrddni mewn datblygiadau, gan ganolbwyntio ar ei bwrpas.
"Yn y gorffennol fe fydden ni wedi teimlo ein bod ni'n gwneud yn dda iawn os fydden ni wedi plannu coeden, ond nawr mae'n rhaid i ni ddeall mwy ynglŷn â pha rywogaethau rydym ni'n eu plannu."
Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig ystyried "pa effaith fyddan nhw'n ei gael ar fioamrywiaeth, wrth ddarparu ardaloedd hefyd i ddal dŵr, neu i sicrhau hefyd bod gan blant lefydd i chwarae".
Mae'r cynlluniau'n dod yn dilyn galwadau i ddatblygu nifer o barciau cenedlaethol dinesig drwy Gymru.
Mae gwahoddiad i drefi a dinasoedd ymrwymo i'r syniad yn ystod cynhadledd arbennig yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Bydd y sawl sy'n mynychu'n clywed am ymdrechion Llundain, dolen allanol i fod yn Barc Cenedlaethol Dinesig cyntaf y byd.
Y nod yw annog cymunedau lleol, busnesau a chyrff cyhoeddus i weithio ar y cyd i gysylltu ardaloedd o wyrddni sy'n bodoli'n barod, fel bod modd i fywyd gwyllt symud drwyddyn nhw'n haws.
Y bwriad yw bydd y cynllun hefyd yn creu mwy o ardaloedd gwyrdd.
Yn ôl David Clubb, o bartneriaeth amgylcheddol Afallen sydd wedi trefnu'r gynhadledd, mae sawl ardal wedi dangos diddordeb.
"Fe hoffwn i weld bob un o'r trefi a'r dinasoedd fydd yn mynychu yn mynd oddi yma i weithio gyda sefydliadau a chyrff eraill ar ddatblygu eu syniadau eu hunain ynglŷn â sut fyddai eu parciau cenedlaethol yn gweithio."
Ychwanegodd Mr Clubb: "Mae angen i ni weithio gyda phobl leol sy'n deall eu hardaloedd, er mwyn creu'r holl hotspots gwych yma ar gyfer bywyd gwyllt drwy Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2019