Patrwm gwaith nyrsys Betsi Cadwaladr 'i aros fel y mae'
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi rhoi'r gorau i'w gynlluniau i newid patrwm shifftiau nyrsys.
Ddechrau mis Hydref dywedodd rheolwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y bydd patrymau newydd yn dod i rym er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn.
Trefnwyd protest gan staff pan gyhoeddwyd y syniad ym mis Awst, ac arwyddodd dros 6,000 o bobl ddwy ddeiseb yn gwrthwynebu.
Ddydd Mercher, dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Gary Doherty, na fyddan nhw'n "datblygu'r newidiadau arfaethedig" a'u bod nawr yn ystyried cynnal trafodaethau pellach.
Mae'r cyhoeddiad wedi cael croeso gan undebau Unsain ac Unite a Choleg Brenhinol y Nyrsys.
'Rhyddhad mawr i nyrsus'
O dan y patrwm newydd byddai nyrsys wedi gorfod cymryd hanner awr ychwanegol o doriad heb dâl yn ystod pob shifft.
Pan gafodd y cynlluniau eu cyhoeddi fe rybuddiodd gwleidyddion ac arweinwyr undeb y byddai'n peryglu ewyllys da, ond yn ôl y bwrdd iechyd fe fyddai'r wedi arbed dros £500,000 bob blwyddyn.
"Mae'r penderfyniad hwn i wneud tro pedol yn fuddugoliaeth i'n hymgyrch ni," meddai Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol undeb Unite.
"Fe fydd hyn yn rhyddhad enfawr i filoedd o nyrsys a gweithwyr iechyd eraill y byddai'r penderfyniad wedi effeithio arnyn nhw.
"Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod Betsi Cadwaladr wedi gwrando ar ein pryderon ac wedi penderfynu gadael pethau fel y mae."
"Rydyn ni yn disgwyl i unrhyw ymgynghoriadau fod yn fwy ystyrlon yn y dyfodol, yn wahanol i'r tro yma," ychwanegodd Mr Hughes.
"Ni fyddwn ni'n fodlon caniatáu iddyn nhw i gyflwyno newidiadau i batrwm gwaith nyrsys mewn unrhyw ffordd arall chwaith."
Dywedodd Mr Doherty: "Rydym yn croesawu cyfathrebu ar y cyd gan Unsain, RCN ac Unite.
"Rydym wedi ymrwymo'n llawn i gydweithio gyda'n partneriaid Undeb Llafur.
"Wrth i ni ganolbwyntio ar ein gwaith partneriaeth a sut i symud ymlaen gyda'n gilydd, ni fyddwn yn datblygu'r newidiadau arfaethedig.
"Gallwn hefyd gadarnhau bydd yr agenda ar gyfer Cyfarfod Arbennig Partneriaeth Leol, sydd i'w gynnal ddydd Gwener 8 Tachwedd yn ymwneud yn benodol â'r mater hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019