Cyfle i ddilyn taith brin planed ar draws wyneb yr haul

  • Cyhoeddwyd
MercuryFfynhonnell y llun, NASA
Disgrifiad o’r llun,

Mercher yw'r blaned leiaf ac mae ei harwynebedd yn debyg i'r lleuad

Mae Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth wedi trefnu digwyddiad cyhoeddus er mwyn i bobl allu gwylio taith anghyffredin y blaned Mercher ar draws wyneb yr haul.

Rhyw 13 o weithiau'n unig y mae'r ffenomenon yn digwydd o fewn canrif a fydd yr un nesaf ddim tan 2032.

Gan mai Mercher yw'r blaned leiaf, dim ond trwy ddefnyddio telesgopau arbennig sydd â'r hidlwyr solar cywir y mae modd gweld y croesiad o'r Ddaear.

Amser cinio ddydd Llun bydd staff a myfyrwyr ôl-raddedig o'r Adran Ffiseg yn gosod pedwar telesgop gyda hidlydd alffa solar a hydrogen o flaen adeilad yr Hen Goleg yn Aberystwyth.

Dibynnol ar y tywydd

Bydd y telesgopau'n caniatáu i bobl nid yn unig weld taith araf Mercher ar draws y ddisg solar ond hefyd i weld awyrgylch yr haul - cyn belled â bod y tywydd yn glir.

Os bydd y tywydd yn gymylog, bydd sgriniau'n cael eu gosod y tu mewn i'r Hen Goleg er mwyn dangos lluniau byw o wledydd eraill rhwng 12.30 a 16.30.

Ffynhonnell y llun, ESA/NASA/SOHO
Disgrifiad o’r llun,

Llun o daith y blaned Mercher yn 2006 ar draws wyneb yr haul

Dywedodd Gabriel Muro, sy'n ymchwilydd solar a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Yn y bôn, eclipsau bach yw'r teithiau planedol hyn ac maen nhw'n galluogi gwyddonwyr i wneud darganfyddiadau newydd am ein system solar ni ac am systemau solar eraill cyfagos.

"Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i fesur pellteroedd a chyflymder goleuni yn gywir, yn ogystal â phrofi damcaniaethau sy'n bodoli eisoes fel theori perthnasedd gyffredinol Einstein.

"Yn ogystal â'r mesuriadau pwysig yma, mae'n werth nodi hefyd bod y rhan fwyaf o'r 4,000 a mwy o blanedau sy'n bodoli mewn systemau solar eraill wedi'u canfod o ganlyniad i deithiau planedol.

"Trwy drefnu'r digwyddiad cyhoeddus hwn, rydyn ni am roi cyfle i fyfyrwyr, disgyblion ysgol ac aelodau eraill o'r gymuned leol i wylio'r digwyddiad solar prin hwn mewn modd diogel, gan ddefnyddio'r offer cywir.

"Hoffem bwysleisio na ddylai pobl fyth edrych yn uniongyrchol ar yr haul heb yr offer priodol, gan y gallai hyn beri niwed difrifol i'w golwg."

Yn ystod y digwyddiad yn yr Hen Goleg bydd staff o'r Adran Ffiseg yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau byr yn ymwneud â'r blaned Mercher, yr haul a chroesiadau planedol.