Bygwth gwahardd rhedwyr hanner marathon Conwy sy'n llygru

  • Cyhoeddwyd
RhedwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai redwyr gael eu diarddel os ydyn nhw'n cael eu gweld yn llygru

Mae trefnwyr ras redeg fwyaf gogledd Cymru yn rhybuddio y gallai rhedwyr gael eu gwahardd eleni os fyddan nhw'n llygru ar y ffordd.

Mae trefnwyr hanner marathon Conwy yn dweud eu bod wedi cyflwyno'r mesur gan fod plastig yn troi'n "broblem gynyddol".

Mae gwefan y ras yn dweud y bydd rhedwyr hefyd yn "cael eu tynnu oddi ar y tabl canlyniadau os fyddan nhw'n cael eu gweld yn llygru o flaen arhosfan ddŵr".

Mae'r ras wedi bod yn cael ei chynnal ers 11 mlynedd ac mae 3,000 o redwyr yn cymryd rhan pob blwyddyn.

Bydd ras hwyl yn cychwyn am 09:15 fore Sul gyda'r hanner marathon yn cychwyn o flaen Castell Conwy am 10:00.

Ffynhonnell y llun, Richard Hoare/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ras yn cychwyn o flaen Castell Conwy

Bydd rhedwyr yn rasio drwy drefi Conwy a Llandudno.

Mae'r trefnwyr, Run Wales, yn dilyn trefn sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan drefnwyr Marathon Llundain er mwyn ceisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

Eleni fe wnaeth Marathon Llundain dreialu mesurau i geisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd, a hynny ar ôl clirio 47,000 o boteli plastig oddi ar y stryd yn dilyn y ras yn 2018.

Mae'r mesurau newydd yn cynnwys cwpanau sy'n gallu cael eu hailgylchu yn hytrach na photeli plastig.

Fe wnaeth trefnwyr hanner marathon Caerdydd hefyd ddilyn mesurau tebyg eleni drwy ddefnyddio poteli plastig sy'n gallu cael eu hailgylchu, papur oedd wedi'i ailgylchu ar gyfer yr hyrwyddo a medalau oedd wedi'u creu allan o sinc oedd wedi'i ailgylchu.

Bydd sawl ffordd yn ardal y ras yn cael eu cau ddydd Sul.