Cymru dan-21 yn curo Bosnia o 1-0

  • Cyhoeddwyd
Liam CullenFfynhonnell y llun, Robbie Jay Barratt - AMA
Disgrifiad o’r llun,

Liam Cullen o glwb Abertawe sgoriodd unig gôl y gêm

Cymru dan-21 1-0 Bosnia Herzegovina dan-21

Mae tîm dan-21 Cymru wedi codi o'r gwaelod i'r trydydd safle yn eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Euro 2021 trwy guro'u cyfoedion o Bosnia yn Wrecsam nos Fawrth.

Tîm Paul Bodin a reolodd yr hanner cyntaf, ond doedd dim goliau.

Roedd yr ail hanner yn fwy cystadleuol, gyda Chymru'n gorfod clirio ergyd gan yr ymwelwyr oddi ar eu llinell eu hunain wedi cwta awr o chwarae.

O'r symudiad yna aeth Nathan Broadhead i ben arall y cae a gorfodi arbediad gan Kovacevic yn y gôl i Bosnia.

Roedd un gôl yn ddigon i setlo pethau, ac roedd yr un a gafodd Liam Cullen yn deilwng i ennill unrhyw gêm - fe grymanodd ei ergyd i gornel ucha'r rhwyd i roi Cymru ar y blaen wedi 71 munud.

Cymru ddaeth agosaf at gôl arall gyda Cullen eto'n bygwth gyda chwe munud yn weddill.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod gan Gymru chwe phwynt o bedair gêm, ac yn eu gadael yn y trydydd safle y tu ôl i Wlad Belg a'r Almaen.