Gwobr ysbrydoliaeth i Merêd a Phillys Kinney
- Cyhoeddwyd
Mae Gwobr Cerddoriaeth Cymru wedi cyhoeddi mai'r diweddar Dr Meredydd Evans a'i weddw Phyllis Kinney fydd yn derbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig eleni.
Dywedodd y trefnwyr fod eu cyfraniad i Gymru yn "amhrisiadwy" a bod eu dealltwriaeth o gerddoriaeth werin yn rhywbeth roedd y ddau "yn falch iawn i basio ymlaen".
Byddai Dr Meredydd Evans - Merêd i lawer - wedi bod yn 100 oed eleni, ac mae Ms Kinney, sy'n wreiddiol o Michigan yn yr Unol Dalaethau, yn byw yng Ngheredigion.
Arwel Rocet Jones, ffrind i'r ddau, fydd yn derbyn y wobr ar eu rhan.
Bu farw Dr Evans yn Chwefror 2015. Roedd yn berfformiwr, wrth gwrs, ond hefyd yn arbengiwr ar gerddoriaeth werin Gymraeg. Fe fecordiodd gerddoriaeth ar gyfer Amgueddfeydd y Smithsonian yn 1954 yn ogystal â chyhoeddi nifer o lyfrau cerddoriaeth gyda'i wraig Ms Kinney.
Dywedodd Gwobr Cerddoriaeth Cymru bod y ddau wedi dylanwadu'n fawr ar ymwybyddiaeth pobl o gerddoriaeth Gymreig ar draws y byd.
Yn 2015 enillodd Dr Evans y Wobr Traddodiad Da fel rhan o'r BBC Radio 2 Folk Awards.
Mae nifer o ddigwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant Dr Evans yn cael eu cynnal ar draws Cymru, gan cynnwys cyngerdd yn Theatr Arad Goch, Aberystwyth ar 29 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2018