Disgwyl cyhoeddi enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019

  • Cyhoeddwyd
Adwaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r band Adwaith - sy'n canu'n ddwyieithog - ymhlith yr artistiaid ar y rhestr fer

Bydd seremoni wobrwyo'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd nos Fercher.

Mae Cate Le Bon, Mr, Adwaith, Lleuwen a HMS Morris ymhlith yr artistiaid sydd ar y rhestr fer o 12 eleni.

Llynedd cafodd y wobr ei hennill gan Boy Azooga, tra bod Meic Stevens hefyd wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad oes i gerddoriaeth yng Nghymru.

Dywedodd sylfaenydd y wobr, Huw Stephens ei fod yn cael ei "syfrdanu" gan y gerddoriaeth bob blwyddyn, a bod "cerddoriaeth o Gymru yn tyfu a thyfu mewn poblogrwydd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cate Le Bon ei henwi ar restr fer Gwobr Mercury yn gynharach eleni

Eleni, mae'r rhai sydd wedi eu henwebu yn cael eu hannog i wisgo ffasiwn gynaliadwy fel rhan o her #CarpediGwyrddCymru.

Mae cyd-sylfaenydd y wobr, John Rostron yn cefnogi ymgyrch Sustainable Fashion Wales a Chyfeillion y Ddaear Cymru, sy'n tynnu sylw at yr angen am fwy o arferion cynaliadwy yn y diwydiant fasiwn.

Maen nhw'n galw ar artistiaid ac ymwelwyr i wisgo rhywbeth sydd ganddyn nhw eisoes, gwisg ail-law neu wedi ei benthyg neu wisg newydd wedi ei gwneud o ddefnyddiau cynaliadwy, ac wedi ei dylunio a'i gwneud yng Nghymru os yn bosib.

Dywedodd Heledd Watkins o'r band HMS Morris: "Fel band rydym yn mwynhau bod yn fentrus â ffasiwn ar y llwyfan, ac rydym yn benderfynol o wneud hynny heb adael ein ôl-troed (drwg) ar y byd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heledd Watkins o'r band HMS Morris yn cefnogi ymgyrch #CarpediGwyrddCymru

Yr artistiaid sydd ar y rhestr fer yw:

  • Accu - Echo the Red

  • Audiobooks - Now! (in a minute)

  • Carwyn Ellis a Rio 18 - Joia!

  • Cate Le Bon - Reward

  • Deyah - Lover Loner

  • Estrons - You Say I'm Too Much I Say You're Not Enough

  • HMS Morris - Inspirational Talks

  • Lleuwen - Gwn Glân Beibl Budur

  • Lucas J Rowe - Touchy Love

  • Mr - Oesoedd

  • Adwaith - Melyn

  • Vri - Tŷ Ein Tadau

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno i'r enillydd mewn seremoni yn y Gyfnewidfa Lo nos Fercher.