Llofruddiaeth Churton: 'Rhaid rhannu gwybodaeth yn well'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar yr heddlu a dwy asiantaeth arall i rannu gwybodaeth yn fwy effeithiol yn dilyn ymchwiliad i lofruddiaeth Nicholas Churton yn Wrecsam.
Cafodd Jordan Davidson ei garcharu am o leiaf 30 mlynedd ar ôl ymosod ar Mr Churton gyda morthwyl a machete yn ei gartref yn Wrecsam ym mis Mawrth 2017.
Dechreuodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ymchwilio i honiadau nad oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi delio gyda'r achos yn briodol.
Fe ddaeth hi i'r amlwg bod Davidson wedi cael ei ryddhau ar drwydded o'r carchar ym mis Rhagfyr 2016, a bod yr heddlu wedi dod i gysylltiad ag o wyth gwaith yn y misoedd cyn yr ymosodiad ar Mr Churton.
Mae'r ymchwiliad yn galw ar Heddlu Gogledd Cymru, y Gwasanaeth Prawf a'r Cwmni Adsefydlu Cymunedol i wella'r ffordd y maen nhw yn rhannu gwybodaeth fel mater o frys.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru i'r IOPC, Catrin Evans, bod "dim proses gofnodedig, archwilio clir na chyfarwyddyd penodol i'r rhai oedd yn ymdrin â digwyddiadau yn ymwneud â Jordan Davidson".
Ychwanegodd bod y "penderfyniad i ymwneud â'r Cwmni Adsefydlu Cymunedol [wedi ei adael] i farn a phrofiad swyddogion unigol, gyda chanlyniadau amrywiol".
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymddiheuro a derbyn argymhellion Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Pan gafodd Jordan Davidson ei ryddhau o Garchar y Parc nid oedd yn cael ei ystyried yn "risg uchel" felly doedd ddim rhaid i'r heddlu dynnu sylw'r Gwasanaeth Prawf a'r Cwmni Adsefydlu Cymunedol - cwmni preifat sy'n delio gyda rheoli troseddwyr - at unrhyw ddigwyddiadau neilltuol.
Cafodd Davidson ei arestio ar amheuaeth o ladrata a bod â chyllell yn ei feddiant ar 19 Mawrth 2017.
Ond ni chafodd y Cwmni Adsefydlu Cymunedol eu hysbysu am hynny tan 24 Mawrth, y diwrnod sy'n cael ei dybio yr aeth o i gartref Nicholas Churton a'i lofruddio.
Dydy teulu Mr Churton ddim wedi ymateb i'r ymchwiliad diweddaraf ond mae ei frawd, James, wedi bod yn hynod feirniadol o'r heddlu yn y gorffennol am ganiatáu i Davidson gael ei ryddhau wedi iddo gael ei arestio.
Achos disgyblu
Fe ddaeth yr IOPC i'r casgliad y dylai un sarjant wynebu achos disgyblu yn yr achos.
Roedd yr ymchwiliad o'r farn nad oedd y swyddog wedi gwneud asesiad derbyniol o wybodaeth cyn rhyddhau Davidson ar fechnïaeth ar ôl iddo gael ei arestio am fod a llafn yn ei feddiant.
Wrth ymateb dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Richard Debicki, bod y llu yn "benderfynol o ddysgu o'r digwyddiad trasig yma".
"Rydym ni yn derbyn yn llawn argymhellion yr IOPC. Rydym ni wedi bod yn gweithio yn galed i'w gweithredu ac i wneud unrhyw newidiadau gweithdrefnol sydd ei angen."
Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, y byddai'n cydweithio yn agos gyda'r prif gwnstabl i wneud yn siŵr bod gwelliannau yn cael eu cyflwyno.
Hwn oedd yr ail o dri ymchwiliad i gael eu cynnal gan yr IOPC yn ymwneud â llofruddiaeth Nicholas Churton.
Roedd yr ymchwiliad cyntaf yn edrych ar gysylltiad yr heddlu gyda Mr Churton yn y dyddiau cyn ei farwolaeth. Ym mis Hydref 2018 daeth i'r casgliad ei bod hi'n bosibl bod swyddogion wedi gwneud camgymeriadau wrth ddelio gyda'r achos.
Daeth y trydydd ymchwiliad i'r casgliad nad oedd cyn-brif gwnstabl yr Heddlu wedi camarwain aelod seneddol yn fwriadol ynglŷn â'r achos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2018