Ymgyrch anrhegion Nadolig yn rhy ddrwg i'r amgylchedd?

  • Cyhoeddwyd
Bocsys anrhegionFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl yn cael eu hannog i beidio ag anfon bocsys esgidiau llawn nwyddau dramor fel rhan o ymgyrch Nadolig oherwydd pryderon amgylcheddol.

Mae miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd fel Operation Christmas Child bob blwyddyn - drwy lenwi bocsys gydag anrhegion i'w rhoi dros y byd.

Ond yn ôl Hub Cymru Africa, grŵp sy'n gweithio gydag elusennau rhyngwladol, nid yw gyrru bocsys dramor yn gynaliadwy.

Dywedodd un gweinidog o Gymru sy'n cymryd rhan bod dim byd sy'n cymharu ag anrheg Nadolig.

Cafodd hanner miliwn o focsys eu hanfon o'r DU i ddwyrain Ewrop, Affrica ac Asia gan elusen Gristnogol Samaritan's Purse y llynedd.

Dywedodd Hub Cymru Africa y dylai pobl feddwl am ffyrdd sy'n well i'r amgylchedd o helpu pobl dramor.

"Yn aml mae nwyddau plastig yn cael eu gwneud dramor a'u cludo i'r DU," meddai Claire O'Shea o'r grŵp.

"Rydyn ni wedyn yn eu rhoi mewn bocsys a'u hanfon yn ôl dramor. Mae hynny'n creu mwy o deithiau awyr ac yn ehangu'r ôl-troed carbon."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Ms O'Shea bod angen partneriaethau gyda gwledydd i gyfrannu at eu heconomïau, yn lle anrhegion.

"Bydden ni'n annog pobl i brynu nwyddau Masnach Deg adeg y Nadolig - siocled Masnach Deg mewn calendr adfent neu anrhegion Masnach Deg."

Enghraifft arall ydy cynllun i brynu coeden ffrwythau i deulu yn Uganda - all roi bywoliaeth i'r teulu a chwarae rhan mewn taclo newid hinsawdd.

Ychwanegodd Ms O'Shea y dylai pobl ystyried y pecynnau mae eu nwyddau'n cynnwys, a hefyd lle mae'r nwyddau wedi eu cynhyrchu.

Ond yn ôl y ficer, Vicki Burrows o Gaerdydd, mae rhoi anrhegion mewn bocs esgidiau yn bwysig.

"Os ydych chi'n derbyn anrhegion mae rhywun wedi meddwl amdanyn nhw ac wedi rhoi ymdrech i'w canfod - dwi'n meddwl bod hynny'n dal y dychymyg," meddai.

Mae hi wedi helpu i gasglu dros 200 o focsys i apêl eleni, sy'n gofyn i bobl gasglu eitemau fel brwshys dannedd, teganau neu sbectol haul.

Ychwanegodd nad oedd hi'n credu bod eitemau o'r fath yn "bethau fyddai'n cael eu taflu'n sydyn".

Er hynny, dywedodd Ms Burrows y byddai'n agored i edrych ar ffyrdd mwy cynaliadwy o anfon anrhegion at blant dros y byd.

Mae Samaritan's Purse wedi cael cais am sylw.