Adnabod corff Gwyddel wedi 36 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau mai corff dyn o Iwerddon sydd wedi bod yn gorffwys mewn mynwent ger Porthaethwy ar Ynys Môn ers 36 o flynyddoedd.
Cafodd corff y dyn ei ddarganfod yn Rhoscolyn ym mis Hydref 1983, ac ar y pryd ni chafodd y corff ei adnabod cyn iddo gael ei gladdu ar yr ynys.
Ym mis Ionawr 2013 cafodd y corff ei godi o'r fynwent mewn cysylltiad â diflaniad gwr arall, ond fe ddangosodd profion DNA nad y gŵr hwnnw oedd yn gorwedd yn y bedd.
Yn dilyn sylw yn y wasg am yr achos hwn, ac achosion eraill o bobl o dde Iwerddon sydd wedi diflannu fe gysylltodd teulu Conor Whooley gyda Heddlu'r Gogledd, sy'n gyfrifol am Ymgyrch Orchid sy'n ymchwilio i achosion hanesyddol o bobl ar goll a chyrff sydd heb eu hadnabod rhwng 1968 a 2011.
Ar ôl i'w deulu ddarparu tystiolaeth DNA i'r ymchwiliad mae'r heddlu nawr wedi gofyn i'r crwner ail-agor ei gwest i ddarganfyddiad y corff yn 1983.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Whooley eu bod nhw'n teimlo rhyddhad o wybod nawr lle mae ei olion wedi cael eu claddu.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Don Kenyon, sy'n arwain Ymchwiliad Orchid: "O ganlyniad i'r cyhoeddusrwydd yn Iwerddon ac ymchwiliad ar y cyd rhwng y Garda, Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig Iwerddon a Heddlu'r Gogledd rydyn ni'n credu fod gennym ni ddigon o dystiolaeth i gyfiawnhau galw ar y crwner i ail-agor yr achos."
"Rwy'n gobeithio bod y newyddion positif hyn yn annog teuluoedd eraill sydd ag anwyliaid ar goll i roi sampl o'u DNA er mwyn ceisio datrys achosion eraill sydd heb eu hateb yng Ngogledd Cymru a thu hwnt."
Yn ôl ei deulu fe ddiflannodd Conor, a oedd yn 24 ar y pryd, ym mis Awst 1983.
Ar ôl clywed am Ymgyrch Orchid fe gysylltodd mam Mr Whooley â'r heddlu er mwyn cynnig sampl DNA, ac fe brofodd hynny wedi mai corff ei mab oedd yn y bedd ar lannau'r Fenai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017