Dwy chwaer 'Deian a Loli' yn cofio eu mam
- Cyhoeddwyd
Mae Angharad Elen yn awdur, yn gynhyrchydd a chrëwr y gyfres deledu i blant, Deian a Loli. Mae ei chwaer Rhian Blythe yn actores amlwg, ac ar hyn o bryd yn chwarae rhan y fam yn y gyfres deledu boblogaidd honno i blant ar S4C.
Yn Nhachwedd 2017, bu farw eu mam, yr actores Iola Gregory, a fu'n portreadu cymeriad Jean McGurk (Mrs Mac) ar Pobol y Cwm.
Mae'r ddwy chwaer wedi sefydlu Gwaddol Iola, cronfa er cof am eu Mam, a fydd yn cynnig cefnogaeth i grŵp neu unigolion i fynd ati i gynhyrchu llwyfaniad neu ffilm fer ddramatig.
"'Dan ni'n agos iawn fel dwy chwaer ond 'dan ni ddim yn gweld digon ar ein gilydd y dyddie yma, gan mod i'n byw yng Nghaerdydd, â phlentyn sy'n mynd i'r ysgol, felly mae'n fy nghadw i yma. Ac wrth gwrs, Angharad yr un fath yn y gogledd," meddai Rhian, sy'n briod â'r actor Simon Watts ac yn fam i ddau o blant.
Mae'r ddwy wedi dewis gyrfa ym myd ffilm a theledu, ond yn ôl Angharad roedd hynny'n ddatblygiad naturiol, yn dilyn eu magwraeth, yn ferched i ddau actor. Bu farw eu tad, yr actor Bob Blythe ym mis Tachwedd 2018. Roedd yn adnabyddus am ei ran yn chwarae Fagin yn y gyfres High Hopes i BBC Wales.
"Mae'r ddwy ohonon ni wedi cael ein magu yn y theatr, i ryw raddau, felly mae'n siŵr ei bod hi'n naturiol bod Rhian wedi mynd yn actores a finnau wedi mynd i sgwennu."
Byw arwahân
Roedd Iola Gregory, yn adnabyddus am chwarae un o gymeriadau enwoca' Pobol y Cwm, Mrs Mac, am 12 mlynedd. Roedd y gwaith yn stiwdios y BBC yn Llandaf, Caerdydd, a'i merched bryd hynny yn fach, ac yn byw yn Llandwrog ger Caernarfon. Gan fod eu rhieni wedi gwahanu erbyn hynny, a'u tad yn byw yn Llundain, yn ystod yr wythnos roedden nhw'n cael eu magu gan warchodwyr, a'u mam yn dod adre' ar y penwythnosau.
"Yn ddiddorol roedd 'na erthygl yng nghylchgrawn Pais yn 1980, rhyw flwyddyn ar ôl i fi gael fy ngeni," meddai Angharad a ddaeth ar draws yr erthygl yn reit ddiweddar.
"Ynddo fo, roedd Mam wedi 'sgwennu ei bod hi wedi penderfynu peidio â chysegru ei bywyd i fagu plant, ac mai ei bywyd hi oedd yn bwysig iddi, a dwi'n cofio meddwl ar y pryd - wel am cheek!
"Roedd hi'n fam sengl, ac mi benderfynodd gario mlaen i weithio, oedd yn golygu ei bod hi i ffwrdd oddi wrthon ni am gyfnodau hir. Rŵan fod Rhian a fi wedi cael plant ein hunain, dwi'n gweld pa mor anodd fyddai hynny wedi bod iddi.
"O edrych yn ôl, dwi'n falch na wnaeth hi aberthu ei gyrfa - tasa hi wedi bod adra efo ni rownd y rîl, fasa hi ddim wedi bod y fam oedd hi. A fel roedd hi, mi oedd hi'n medru rhoi ei holl sylw inni pan oedd hi adra."
'Roedd hi'n gymaint o hwyl'
Ategodd Rhian: "Roedd ganddi hi gymaint mwy o egni ar y penwythnosau pan oedd hi efo ni, oedd hi'n taflu ei hun i mewn i fod yn fam, oedd hi'n gymaint o hwyl.
"Mi oedd hi'n gadael inni dywallt cynnwys y bean bags ar lawr y lolfa bob nos, yn gadael inni sgwennu ar y walia yn y tŷ ac yn cael food fights efo ni. Un tro, mi ddo'th hi i'r ysgol i fy nôl i wedi ei gwisgo fel gwrach. Roedd fy ffrindia i wedi dychryn am eu bywydau!"
Ychwanegodd Angharad: "A pan oedd Mam yn gofalu am Siop y Becws yn Llandwrog rhyw dro, a Rhian a finna yno efo hi, a rhai o'n ffrindia ni hefyd, mi biciodd allan gan ein gadael ni i ofalu am y lle am ddau funud. Peth nesa', dyma 'na "leidar" yn dwad i mewn - yn gwisgo mac coat laes, het trilby a sbectol ddu a banana yn ei llaw o dan ei chôt - a dweud "stick 'em up!""
Dewis de neu gogledd?
"Pan oeddan ni'n ifanc iawn, fe gafon ni ddewis i fynd i'r de neu i aros yn y gogledd," meddai Angharad.
"Mae'n rhyfedd iawn i edrych nôl, dwi ddim yn siŵr a fydden i'n rhoi'r dewis yna i fy mhlant i! Ond cytundeb chwe mis efo Pobol y Cwm oedd o i ddechra, a mi oeddan ni'n byw yn Llandwrog, y lle gora'n y byd, a doeddan ni ar unrhyw gyfri eisiau symud o fan 'no, yn enwedig i fynd i rhyw ddinas fawr ddrwg!"
"Tasa hi'n gwybod ar y pryd y bydda hi yn Pobol y Cwm am ddeuddeg mlynedd, fel oedd o yn y diwedd, dwi'n meddwl bysa hi wedi ein symud ni efo hi, ond achos bod y cytundebau yn eitha byr, mi oedd hi'n mynd o flwyddyn i flwyddyn," meddai Rhian.
"O'dd Mam yn teithio i Gaerdydd ar nos Sul ac yn dod nôl bob nos Wener, felly dim ond y penwythnosau oeddan ni'n treulio efo'n gilydd, am rhyw ddeuddeg mlynedd. Roedd Llandwrog yn baradwys o le i gael dy fagu. Oeddan ni allan bob awr o'r dydd yn dringo coed a gwneud drygau a ballu. Dwi'n teimlo bod y pentref wedi ein magu ni i ryw raddau," meddai Angharad.
"Oeddan ni'n gweld ei cholli hi'n ofnadwy, ond fe gafon ni blentyndod hapus iawn," ategodd Rhian, sy'n adnabyddus am chwarae nifer o rannau, gan gynnwys Grug yn Gwaith Cartref, gan ennill BAFTA Cymru am y rhan, Morfydd yn y ddrama o'r un enw, ac Ania yn y gyfres Parch. Erbyn hyn, hi sy'n chwarae'r fam a chymeriadau eraill yn Deian a Loli.
"Fel ddywedodd Angharad, mi gawson ni ein magu yn y theatr, ac yn mynd i weld petha ac yn treulio amser ar setiau [teledu] yn yr haf. Ond yn Ysgol Glanaethwy ges i'r cyfle i brofi'r peth drosof fy hun, a chael anogaeth gan Cefin Roberts.
"Es i goleg drama yng Nghaeredin, a phan nes i orffen yno, roedd y Theatr Genedlaethol ar fin cael ei sefydlu, ac eto Cefin Roberts roddodd y cyfle i mi yn fan 'no."
'Deian a Loli yn deyrnged i'n magwraeth'
Mae ei chwaer, Angharad, sydd wedi symud yn ôl i Landwrog gyda'i dau o blant, yn gweithio fel cynhyrchydd teledu a ffilm i gwmni teledu Cwmni Da yng Nghaernarfon. Hi sy'n gyfrifol am ddod â'r efeilliaid Deian a Loli i'r sgrin fach, brawd a chwaer annwyl a direidus, sy'n agos iawn at galonnau gwylwyr Cyw.
"O'n i newydd gael plant fy hun," meddai Angharad Elen, am y syniad y tu ôl i'r gyfres.
"A ro'n i'n i'n teimlo'n euog am fynd yn ôl i'r gwaith a'u gadael nhw. Cyn hynny ro'n i wedi bod yn gweithio ar gynyrchiadau drama a dogfen eithaf difrifol."
Cynhyrchodd y rhaglenni dogfen Gerallt, Merêd a Y Dyn Gwyllt gan ennilll Bafta Cymru a dwy wobr Gŵyl Cyfryngau Celtaidd am y rhaglen Gerallt.
"Ond ar ôl cael plant, newidiodd pethau i ryw raddau. Ro'n i'n teimlo mod i eisiau gwneud rhaglen yn arbennig iddyn nhw, a hefyd dwi'n meddwl fod Deian a Loli, o edrych yn ôl, wedi bod yn rhyw deyrnged i'n magwraeth ni yn Llandwrog, allan yn chwarae bob awr o'r dydd.
"O'n i eisiau gwneud rhaglen oedd yn annog plant i ddiffodd y teledu a mynd allan i chwarae. Mae 'na rywbeth eitha' nostalgic iddo fo, ond hefyd maen nhw'n datrys problemau yn y byd go iawn trwy ddianc i fyd ffantasi. O'n i eisiau rhaglen oedd yn helpu plant i ddefnyddio eu dychymyg i ddatrys problemau.
"S'dim teimlad gwell yn y byd na chael plant yn dod ata'i i ddweud gymaint ma' nhw'n mwynhau'r gyfres."
Gwaddol Iola
Yn dilyn marwolaeth eu mam, penderfynodd y ddwy chwaer sefydlu cronfa ar gyfer Iola Gregory, un a fyddai'n cofio amdani, gan roi cyfle a chefnogaeth i bobl ifanc i ddatblygu dramâu newydd ar lwyfan ac ar sgrin.
"Syniad ar ôl sesiwn deyrnged yn y Steddfod llynedd i Mam, a Mari Emlyn gododd y peth," meddai Angharad Elen.
"Fuon ni'n trafod sut fyddai'r ffordd orau i'w chofio hi, ac o'n i'n meddwl bysa foi'n siwtio anian Mam tasan ni'n cynnig cyfle i awduron neu gyfarwyddwyr neu actorion i fynd ati i greu ffilm fer eu hunain, yn cael cefnogaeth ariannol a chefnogaeth mentoriaid hefyd. Mae 'na gymaint o dalent allan yna ond weithiau dydi pobol ddim yn siŵr iawn sut i fynd ati, neu heb y modd i fynd ati.
"'Dan ni'n trio casglu bas data o enwau o fentoriaid posib, gyda'r bwriad o deilwra y gefnogaeth yn arbennig ar gyfer y prosiect fydd yn cael ei ddewis, a'r syniad ydi y bydd darn newydd o waith yn cael ei lwyfannu neu ei ddangos mewn sinema ar ddiwedd bob dwy flynedd."
Bu Angharad a Rhian yn siarad ar raglen Dros Ginio ar 2 Rhagfyr.
Hefyd o ddiddordeb: