Heddlu'n cyhuddo merch 15 oed wedi digwyddiad Llundain

  • Cyhoeddwyd
Katherine JenkinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Katherine Jenkins yn wreiddiol o Gastell-nedd

Mae Heddlu'r Met wedi cyhuddo merch 15 oed o ladrad ac am ymosod ar yr heddlu yn dilyn digwyddiad ble cafodd y gantores, Katherine Jenkins ei mygio ar stryd yn Llundain.

Roedd Ms Jenkins sy'n wreiddiol o Gastell-nedd ar ei ffordd i ymarfer ar gyfer cyngerdd Nadolig elusennol yn ardal Chelsea brynhawn Mercher pan welodd griw yn ceisio dwyn gan ddynes oedrannus.

Fe geisiodd helpu'r ddynes, cyn iddi gael ei mygio, cafodd dwy ferch 15 oed eu harestio ar amheuaeth o ladrad yn dilyn y digwyddiad.

Mae un ferch wedi cael ei chyhuddo ac mae disgwyl iddi ymddangos o flaen ynadon yn Highbury, Llundain ar 6 Ionawr.

Mae'r ferch arall gafodd ei harestio wedi'i rhyddhau dan ymchwiliad.