Pryder bod mwy yn cysgu ar y stryd yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae pebyll ar Graig Glais, lle nad oes fawr o gysgod o'r tywydd

Mae Cyngor Ceredigion mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn cynnydd "annisgwyl ac anesboniadwy" yn nifer y bobl sy'n cysgu ar strydoedd Aberystwyth.

Mae yna bryderon yn lleol y gallai cynnydd dros fisoedd y gaeaf beryglu bywydau.

Mae rhai pebyll wedi eu gweld ar Graig Glais, lle nad oes fawr o gysgod o'r tywydd.

Dywedodd Cyngor Ceredigion ei fod yn "adolygu'r trefniadau presennol" er mwyn penderfynu sut mae modd darparu cefnogaeth ychwanegol.

Mae elusen The Wallich a Chymdeithas Gofal Ceredigion yn cynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n cysgu ar y stryd yn Aberystwyth, ond maen nhw eisoes yn llawn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guy Evans bod nifer yn symud "o noson i noson mewn amgylchiadau anniogel"

Dywedodd Guy Evans, prif weithredwr Cymdeithas Gofal Ceredigion, fod y broblem yn "llawer gwaeth nag y mae'r ffigyrau'n awgrymu".

"Dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf, mae cynnydd amlwg wedi bod yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y strydoedd ar draws Cymru a Lloegr," meddai.

"Dyw Ceredigion yn ddim gwahanol, ac mae'r broblem fwyaf yng Ngheredigion yn Aberystwyth.

"Mae'r ffigyrau yn sioc, ydyn, ond nid dyna'r darlun llawn.

"Y broblem arall fan hyn yw'r digartref cudd - y 'sofa surfers'. Mae gyda ni bobl sy'n symud o noson i noson mewn amgylchiadau anniogel."

Dros yr un cyfnod o bythefnos ym mis Tachwedd, mae ffigyrau Cyngor Ceredigion yn dangos:

  • 2016 - 6 yn cysgu ar y stryd

  • 2017 - 12 yn cysgu ar y stryd

  • 2018 - 15 yn cysgu ar y stryd

  • 2019 - 25 yn cysgu ar y stryd

Disgrifiad o’r llun,

Mae llety Cymdeithas Gofal Ceredigion i'r digartref yn Aberystwyth eisoes yn llawn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn wyneb y cynnydd annisgwyl a hyd yma anesboniadwy yn nifer y rhai sy'n cysgu ar strydoedd Aberystwyth, rydym mewn trafodaethau gyda Chyngor Ceredigion i ganfod pa gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen yno."

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae gennym bryderon am nifer y bobl sydd ar y stryd, ac mae'r rhesymau am hyn yn aml yn gymhleth.

"Mae'n cael ei gydnabod fod sawl asiantaeth angen bod yn gyfrifol am gefnogaeth ac ymyrraeth wrth ddelio gyda hyn, gan gynnwys yr holl wasanaethau cyhoeddus, iechyd meddwl, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, timau gofal cymdeithasol, timau tai ac elusennau.

"Wrth ystyried hyn, mae'r cyngor yn adolygu'r trefniadau presennol er mwyn canfod sut mae darparu cefnogaeth ychwanegol."