Ehangu cynlluniau gwasanaeth iechyd meddwl i feddygfeydd
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth iechyd meddwl sydd wedi newid bywydau cleifion yn y gogledd yn mynd i gael ei ehangu i feddygfeydd.
Mae dros 2,500 o bobl wedi defnyddio canolfannau MEDRAF-I yn ysbytai Glan Clwyd, Gwynedd a Maelor Wrecsam ers iddynt gael eu treialu yn gynharach eleni.
Mae'r canolfannau yn cynnig cefnogaeth i gleifion mewn adrannau brys ond efallai nad yw'r cleifion hynny angen triniaeth feddygol na gwely.
Maent yn cyflogi staff ac mae nifer yn gwirfoddoli - mae nifer ohonynt wedi dioddef problemau iechyd meddwl eu hunain.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y gwasanaeth yn rhoi'r cyfle i bobl siarad am faterion iechyd meddwl i ffwrdd o'r wardiau.
Maent yn gobeithio bod ehangu'r cynllun i feddygfeydd yn rhoi cyfle i bobl gael cefnogaeth yn agos at adref.
Cafodd Shannon Doherty, 23, ei helpu gan staff MEDRAF-I wedi iddi fynd i Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Mawrth - mae hi bellach yn cael ei chyflogi fel arolygwr yno.
Dywedodd: "Cefais fy nghyflwyno i'r tîm MEDRAF-I a fy symud o amgylchedd ward ysbyty.
"Roedd o'n gyfle i fod yn real ac agored yn hytrach na bod rhywun yn fy meirniadu ac yn edrych lawr arnaf.
"Mae'n braf bod staff a gwirfoddolwyr wedi cael profiadau eu hunain gan eu bod yn gwybod be' mae o fel.
"O'm mhrofiad i o wirfoddoli yng nghanolfan MEDRAF-I, 'dyw llawer o'n clientau â dim profiad cymunedol, neu brofiad o berthyn bellach - dwi'n meddwl bod hynna yn eitha' cyffredin.
"Mae'r holl brofiad wedi newid fy mywyd ac mae'n deimlad braf cael fy ngwerthfawrogi oherwydd fy mhrofiad.
"Rŵan dwi'n gweithio ar gyfer gwneud yn dda yn y gwaith a dwi am sicrhau nad yw pobl eraill yn profi be wnes i."
Dywedodd Lesley Singleton o'r bwrdd iechyd: "Ry'n yn annog pobl i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl.
"Mae hynny yn arwain at fwy o bobl yn troi mewn i adrannau brys ysbytai i ofyn am gymorth ond mae MEDRAF-I yn gallu rhoi'r genfogaeth angenrheidiol."
Bydd y cynllun nawr yn cael ei ehangu i feddygfeydd lleol.
Dywedodd Helen Alefounder o Feddygfa Rysseldene ym Mae Colwyn: "Dwi'n meddwl unwaith y byddwn wedi hyfforddi staff a chleifion y bydd yn wasanaeth defnyddiol ac mai dyma'r ffordd ymlaen.
"Mae o'n golygu y bydd cleifion yn cael y gefnogaeth a'r driniaeth y maent eu hangen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019