Wardeiniaid Parc Eryri i helpu gofalwyr mewn tywydd garw

  • Cyhoeddwyd
Eira Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Eira ar stryd fawr Llanberis yn 2018

Bydd gofalwyr sy'n edrych ar ôl pobl yng Ngwynedd yn cael cymorth i gyrraedd cartrefi gan wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn ystod tywydd garw misoedd y gaeaf.

Mae dros 1,000 o bobl Gwynedd yn ddibynnol ar ofal cyngor neu gymorth lleol ac mewn tywydd gwael does dim posib teithio ar ffyrdd mynyddig oherwydd yr eira a'r rhew.

Bydd wardeiniaid y parc yn mynd â gofalwyr o ddrws i ddrws mewn cerbydau 4X4.

"Mae'n hanfodol bod y bobol fregus iawn, iawn yma yn cael y gwasanaeth... maen nhw'n ddibynnol arno fo," meddai'r Cynghorydd Dafydd Meurig - diprwy arweinydd Cyngor Gwynedd a'r aelod sy'n gyfrifol am faterion gofal.

"'Dan ni 'di cl'wad straeon yn y gorffennol am ofalwyr cartef yn gorfod cerdded trwy eira mawr a mynd yn sownd yn eu ceir... yn ogystal ag eisio cefnogi'r trigolion eu hunain, 'dan ni eisio cefnogi'r gweithwyr hefyd."

Ychwanegodd fod y "trefniant lled anffurfiol" yn gwneud synnwyr mewn cyfnod anodd yn ariannol i'r awdurdodau lleol.

"Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn edrych ar ei fflyd a sginnon ni ddim gymaint o 4x4's w'rach nag oedd ginnon ni yn y gorffennol, ond ma' hein dal gan y Parc a 'dwi'n meddwl bod o'n beth doeth iawn bod ni yn y sector gyhoeddus yn edrych ar gyfleon i gydweithio ac i rannu adnodda'."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri fydd yn cydweithio ar y drefn newydd