Dim ond 3.5% o ofalwyr yn cael asesiad o'u hanghenion

  • Cyhoeddwyd
gofalwr a hen ddynesFfynhonnell y llun, Getty Images

Dim ond 3.5% o ofalwyr yng Nghymru sydd wedi cael cynnig asesiad o'u hanghenion, yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Mae gan ofalwyr hawl gyfreithiol i gael asesiad gan eu cyngor lleol i weld a ydyn nhw'n gymwys i gael cymorth ychwanegol.

Rhwng 2016 a 2017 dim ond 13,071 o'r 370,000 o ofalwyr yng Nghymru gafodd gynnig asesiad swyddogol.

Yn ôl Age Cymru mae'r ystadegau yma'n "hynod o isel".

'Problemau iechyd eu hunain'

Gallai'r help ychwanegol gynnwys cymorth gyda thrafnidiaeth, gwaith tŷ neu fesurau i leddfu straen.

Gwrthododd tua hanner y gofalwyr y cyfle i gael asesiad, ond fe dderbyniodd dros 6,200 y cynnig.

O'r rheiny, dim ond 1,823 oedd yn derbyn pecyn cymorth - sef tua 0.5% o'r holl ofalwyr yng Nghymru.

Dywedodd Victoria Lloyd, prif weithredwr Age Cymru, fod y nifer "yn hynod o isel" ac nad oedd yn adlewyrchu anghenion gofalwyr ledled Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Victoria Lloyd mae llawer o'r gofalwyr hefyd yn hŷn a gyda'u hanghenion iechyd eu hunain

"'Dan ni'n gwybod bod nifer o ofalwyr yn hŷn a bod ganddyn nhw eu hanghenion iechyd a gofal eu hunain," meddai.

"Mae gan ddwy ran o dair ohonyn nhw broblemau iechyd eu hunain felly dylen ni fod yn cynnal mwy o asesiadau a darparu mwy o gefnogaeth a chyngor i ofalwyr am eu hiechyd a'u lles eu hunain ac am y bobl maen nhw'n gofalu amdano."

Mae gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn darparu gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn ac mae eu prif swyddog, Llinos Roberts am weld pob gofalydd yn derbyn asesiad heb eithriad.

"Byddai hyn yn ffordd arbennig o dda i ddangos angen o fewn y gymuned a chefnogi gofalwyr," meddai.

'Fawr ddim newid'

Dros yr haf mae pwyllgor iechyd, gofal a chwaraeon y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i edrych ar y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd ar gael i ofalwyr.

Fe fyddan nhw'n edrych ar effaith y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, gan gynnwys asesiadau o anghenion, y gefnogaeth sydd ar gael a gofal seibiant, yn ogystal â'r wybodaeth sydd wedi ei gasglu gan gynghorau a byrddau iechyd.

Fe fyddan nhw hefyd yn ystyried polisi ehangach Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Dai Lloyd AC, cadeirydd y pwyllgor, fod angen y gefnogaeth gywir i ofalwyr.

Disgrifiad,

Dai Lloyd: 'Fawr ddim gwahaniaeth' ers deddf gofal

"Mae'r ddeddf fewn ers rhai blynyddoedd rŵan ond 'dan ni wedi bod yn clywed does 'na fawr ddim gwahaniaeth ar y llawr - dyna'r dystiolaeth sy'n dod yn gynyddol gerbron," meddai.

"Does 'na fawr o newid wedi bod mewn gwasanaethau ac o gofio'r cefndir ariannol, mewn rhai mannau mae'r gwasanaethau wedi gwaethygu."

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae 96% o'r gofal sy'n cael ei ddarparu mewn cymunedau ledled y wlad yn cael ei roi'n rhad ac am ddim gan deulu a ffrindiau, ac mae'r gofalwyr hynny'n cyfrannu dros £8.1bn i economi Cymru bob blwyddyn.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n dweud bod gofalwyr yn chwarae rhan allweddol ac nad yw nifer o ofalwyr yn dod i gysylltiad â'r gwasanaethau cymdeithasol, ac felly ddim yn ymwybodol o'u hawliau.