Cytundeb yn achos cyfreithiol is-bostfeistri yn erbyn Swyddfa'r Post

  • Cyhoeddwyd
BBC

Mae achos cyfreithiol hir rhwng Swyddfa'r Post a nifer o is-bostfeistri wedi dod i ben yn dilyn cytundeb rhwng y ddwy ochr.

Roedd dros 550 o is-bostfeistri neu gyn is-bostfeistri wedi dwyn achos yn erbyn Swyddfa'r Post a'u system Gwybodaeth Technoleg Horizon rhwng 1999 a 2000.

Fe fydd Swyddfa'r Post yn talu bron i £58m fel rhan o'r setliad ariannol i'r is-bostfeistri a chyn is-bostfeistri.

Dywedodd yr is-bostfeistri fod camgymeriadau'r system gyfrifiadurol yn gyfrifol am i symiau o arian ddiflannu.

Yn dilyn penodi prif weithredwr newydd ym mis Medi, aeth y Swyddfa Bost ati i geisio dod i gytundeb gyda'r is-bostfeistri, ac yn dilyn gwrandawiad dros sawl diwrnod yn yr Uchel Lys, daeth cyhoeddiad ddydd Mercher fod yr anghydfod wedi dod i ben.

Disgrifiad,

Cytundeb achos is-bostfeistri: 'Gollish i'r cwbwl'

Un o'r is-bostfeistri oedd yn rhan o'r achos yn erbyn Swyddfa'r Post oedd Noel Thomas.

Fe gafodd Mr Thomas, oedd yn cadw Swyddfa'r Post ym mhentre' Gaerwen ar Ynys Môn, ei garcharu am naw mis yn 2006, ar ôl cyfadde' bwlch o £48,000 yn y cyfrifon.

Dywedodd wrth y BBC yn gynharach eleni ei fod am i "bawb allu cael clirio eu henwau".

Un sydd wedi bod yn flaenllaw yn yr achos cyfreithiol ydi'r cyn is-bostfeistr Alan Bates, oedd yn gyfrifol am Swyddfa'r Post yng Nghraig-y-Don ger Llandudno o fis Mawrth 1998 tan fis Tachwedd 2003.

Dywedodd Mr Bates: "Fe hoffai'r pwyllgor llywio ddiolch i Nick Read, prif weithredwr newydd Swyddfa'r Post, am ei arweiniad a'i benderfyniad i gynorthwyo i ddod i gytundeb yn yr anghydfod hir yma. Yn ystod y broses o gytundebu, fe ddaeth yn amlwg ei fod yn bwriadu ailsefydlu'r berthynas rhwng Swyddfa'r Post a'r is-bostfeistri a gosod prosesau a chefnogaeth newydd iddyn nhw, fel rhan o gynllun ehangach o welliannau."

Yn dilyn y cyhoeddiad am y cytundeb, dywedodd cadeirydd Swyddfa'r Post, Tim Parker: "Rydym yn derbyn ein bod, yn y gorffenol, wedi gwneud pethau'n anghywir wrth ddelio gyda nifer o is-bostfeistri ac rydym yn edrych ymlaen nawr i symud ymlaen, gyda'n prif weithredwr newydd yn arwain y broses sylweddol o ail-wampio ein perthynas gydag is-bostfeistri".