Gwasanaeth i goffáu wyth awyrennwr o America

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth 2014
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaeth coffa hefyd ei gynnal yn 2014 i nodi 70 mlynedd ers y digwyddiad

Mae gwasanaeth coffa wedi cael ei gynnal i gofio am wyth aelod o awyrlu 'r Unol Daleithiau a fu farw ger Ynys Môn yn yr Ail Ryfel Byd.

Roedd 10 dyn ar fwrdd yr awyren Jogs Up ar 22 Rhagfyr, 1944 wrth iddi redeg allan o danwydd a cheisio glanio yn Y Fali.

Methodd yr awyren â chyrraedd y tir, gan chwalu ar greigiau Ynys Arw (North Stack), ac er i'r dynion lwyddo i ddefnyddio eu parasiwtiau bu farw wyth ohonyn nhw yn y môr.

Dywedodd Jeff Evans o'r Grŵp Coffáu Ynys Arw y bydd yn ddigwyddiad teimladwy.

Roedd criw'r awyren yn dychwelyd i Brydain yn dilyn cyrch bomio dros Yr Almaen gyda'r bwriad o fynd i faes awyr Lerpwl. Ond wrth i'r tywydd waethygu yno fe gawson nhw gyfarwyddyd i fynd i'r Fali.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw wyth o'r criw pan redodd yr awyren B-24 allan o danwydd a tharo clogwyni Ynys Arw

25 mlynedd yn ôl, daeth deifiwr lleol o hyd i weddillion yr awyren, ac fe godwyd dau bropelor o'r môr.

Mae un yn cael ei arddangos mewn amgueddfa yn North Carolina, ac mae'r llall ym Mharc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi, lle cafodd y gwasanaeth fore Sul ei gynnal.

Cafodd y propelor ei osod ar graig cyn cael ei orchuddio gan faneri'r Unol Daleithiau, Cymru a Phrydain, gydag anthemau'r UDA a Chymru yn cael eu canu.

Roedd cynrychiolydd o lysgenhadaeth America yn goruchwylio wrth i'r RNLI daenu 5,000 o ddail pabi ar y môr.