Llofruddiaeth Y Barri: Cyhoeddi enw dyn

  • Cyhoeddwyd
Trywannu Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd prif stryd Y Barri ar gau am rai oriau nos Lun wedi'r digwyddiad

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw'r dyn gafodd ei ladd yn Y Barri ddydd Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Holton yng nghanol y dref am 16:00 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Bu farw Jordan Davies, 23 oed, yn y fan a'r lle o ganlyniad i gael ei drywanu.

Mae'r heddlu wedi arestio dyn 24 oed "oedd yn gyfarwydd i'r dioddefwr" ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark O'Shea: "Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn canol tref brysur. Hoffen ddiolch i'r cyhoedd rheiny wnaeth geisio cynorthwyo Jordan.

"Fe gafodd y digwyddiad ei ddal ar gamera ac rwy'n apelio i unrhyw un sydd â deunydd ar eu ffonau i beidio â'i gyhoeddi, ond yn hytrach ei anfon atom ni'r heddlu, er mwyn i ni gael ymchwilio'n llawn a chael cyfiawnder i deulu'r dioddefwr ifanc."

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, mae'r llu'n gofyn i bobl ffonio 101 gan gyfeirio at achos - 1900461821, neu drwy ffonio Taclo'r Tacla yn anhysbys ar 0800 555 111.