Dyfarniadau cyntaf cronfa nawdd cerddorion Cymraeg Eos
- Cyhoeddwyd

Gai Toms - yma, ar daith ddiweddar gyda'r Banditos - yw un o'r ymgeiswyr cyntaf i gael cefnogaeth y gronfa a gafodd ei lansio ym mis Awst
Mae artistiaid adnabyddus ymhlith y grwpiau a cherddorion cyntaf i dderbyn nawdd o gronfa elusennol newydd yr asiantaeth hawliau darlledu, Eos.
Mae Sŵnami'n cael cyfraniad at gynhyrchu'u halbym nesaf a Gai Toms yn cael nawdd i brynu offer stiwdio newydd.
Dydy'r asiantaeth ddim yn datgelu faint o arian a gafodd ei roi ymhob achos ond dywedodd llefarydd bod cyfanswm o £7,500 wedi ei ddyfarnu gan banel annibynnol.
Mae Cronfa Nawdd Eos, a gafodd ei lansio ym mis Awst, yn cynnig pecynnau nawdd rhwng £500 a £2,000 ar gyfer artistiaid, cyfansoddwyr a hyrwyddwyr.
Mae'n gwahodd ceisiadau gan unrhyw un sy'n gwneud bywoliaeth yn llawn neu yn rhan amser drwy gerddoriaeth Gymraeg neu'n perfformio mewn cynyrchiadau Cymraeg.

Ymgeiswyr llwyddiannus 2019
Bitw - at recordio albwm newydd
Bwncath - at daith eu halbwm newydd yn 2020
Gai Toms - at offer stiwdio newydd i Recordiau Sbensh
Label recordiau LWCUS T - at gynllun marchnata Iaith y Nefoedd - prosiect newydd aml-gyfrwng Yr Ods a'r awdur, Llwyd Owen
Owain Gruffudd Roberts, arweinydd Band Pres Llarregub - at gynhyrchu albwm newydd ei hun
Sŵnami - at gynhyrchu albwm newydd
Thallo - cyfraniad at ymarfer a chreu cynnyrch newydd
Jim O'Rourke, Lisa Gwilym, Idris Morris Jones, Caryl Parry Jones a Robat Arwyn oedd aelodau'r panel dyfarnu.

Dywedodd y llefarydd eu bod wedi derbyn tua 25 o geisiadau erbyn y dyddiad cau ddiwedd Medi, ac mae'r ymateb yn "dangos faint sydd angen cronfa debyg i hyn".
Mae'r broses ymgeisio anffurfiol, meddai, yn sicrhau "bod hi'n ddigon hawdd i wneud cais", hyd yn oed i unigolion a grwpiau sydd heb arfer ceisio am nawdd.
Gan mai arian preifat yw'r gronfa, mae modd ei ddefnyddio fel arian cyfatebol wrth ymgeisio am arian o ffynonellau eraill.
Dywedodd bod y broses ddyfarnu wedi bod yn "dipyn o job" i'r panel dyfarnu, a'u bod wedi cymeradwyo'r ceisiadau mwyaf uchelgeisiol o ran y potensial i greu "impact".
Cadarnhaodd bod yna ymgeiswyr adnabyddus ymhlith yr ymgeiswyr aflwyddiannus.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn rhagweld mai unwaith y flwyddyn fyddan nhw'n gwahodd ceisiadau yn y dyfodol, a byddan nhw'n cadarnhau'r manylion yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd cadeirydd bwrdd Eos, Rhys Harris: "Mae'n bleser gen i gyhoeddi ein bod yn cefnogi'r prosiectau cyffrous yma gyda grantiau o Gronfa Nawdd Eos."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2019
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd5 Awst 2016