'Pryder sylweddol' am ysgolion uwchradd Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd Wrecsam yn perfformio'n sylweddol is na'r cyfartaledd Cymreig, gan olygu bod gwasanaethau addysg y sir yn achosi "pryder sylweddol" i arolygwyr.
Lefelau presenoldeb gwael a chyfradd uchel gwaharddiadau o'r ysgol yw rhai o'r problemau sy'n cael eu nodi mewn adroddiad beirniadol gan Estyn.
Yn ogystal, dydy lles ac agweddau plant at ddysgu yn ysgolion uwchradd Wrecsam ddim yn cymharu'n dda gydag ysgolion eraill yng Nghymru.
Dywedodd Cyngor Wrecsam ei fod "ar y daith gywir" i weld gwelliant yng nghanlyniadau TGAU.
'Ymhell islaw'r cyfartaledd'
Er bod disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn ysgolion cynradd, roedd safonau gwael mewn Saesneg a Mathemateg mewn ysgolion uwchradd yn bryder penodol.
Mae disgyblion bregus, gan gynnwys plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a disgyblion gydag anghenion dysgu arbennig yn perfformio "ymhell islaw'r cyfartaledd" o'i gymharu â disgyblion mewn rhannau eraill o Gymru.
Yn ôl Estyn, mae 'na ymrwymiad clir gan y cyngor i wella'r sefyllfa ond doedd yna ddim digon o effaith i'w weld ar berfformiad disgyblion.
Mae traean o ysgolion uwchradd y sir wedi gweld cynnydd yn lefelau absenoldeb cyson dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae cyfradd gwaharddiadau o'r ysgol am fwy na phum diwrnod yn uwch yn Wrecsam na mewn unrhyw ran arall o Gymru.
Dros dair blynedd, roedd yna gynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion oedd yn derbyn addysg tu allan i ysgolion, ac roedd gormod o ddisgyblion oedd wedi eu gwahardd yn mynd heb addysg yn llwyr a hynny'n eu gwneud yn fwy bregus.
Gweithredu'n 'rhy araf'
One fe wnaeth Estyn ganmol lles a "chynnydd cryf" disgyblion mewn ysgolion cynradd y sir.
Mae perthynas dda gyda theuluoedd plant gydag anghenion dysgu arbennig a chefnogaeth i blant o gefndiroedd sipsi a theithwyr ymhlith y meysydd sy'n cael eu canmol gan Estyn.
Daw'r adroddiad ddyddiau'n unig ar ôl i bennaeth addysg y sir, Ian Roberts, ddweud y bydd yn gadael y swydd y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Estyn bod yna weledigaeth "glir ac uchelgeisiol" ar gyfer addysg ond bod gweithredu i wella'r sefyllfa wedi bod yn "rhy araf".
"Mae goblygiadau deilliannau gwan yn ysgolion uwchradd Wrecsam yn arwyddocaol i les pobl ifanc a'u haddysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn y dyfodol," meddai'r adroddiad.
"Mae graddfa'r her i wella deilliannau mewn ysgolion uwchradd yn golygu bod Wrecsam yn awdurdod sy'n achosi pryder sylweddol."
'Sicrhau gwelliannau'
Dywedodd prif weithredwr Cyngor Wrecsam, Ian Bancroft bod yr adroddiad yn dangos bod gan y sir rhai o'r ysgolion cynradd gorau yng Nghymru, a bod yna welliannau wedi bod ym mlynyddoedd cynnar ysgolion uwchradd.
Fe wnaeth annog rhieni i weithio gyda'r cyngor wrth geisio gwella canlyniadau TGAU.
"Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion uwchradd a llywodraethwyr i sicrhau bod y gwelliannau'n digwydd," meddai.
"Byddwn yn cryfhau arweinyddiaeth yn ein gwasanaethau addysg, a byddwn yn parhau i sicrhau yr ydym yn amddiffyn cyllid ysgolion ac yn buddsoddi mewn addysg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2016